Dydd Miwsig Cymru 2019

Yma yn Orchard, rydym yn angerddol iawn am lawer o bethau, cerddoriaeth byw yw un ohonynt. Siaradai Rich, ein Cydlynydd Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol am ei hoff artistiaid Cymraeg mae’n rhaid i chi ychwanegu i’ch rhestr chwarae, jyst mewn pryd ar gyfer Dydd Miwsig Cymru!

Mae'n ddydd Miwsig Cymru y dydd Gwener hwn (Chwefror 8, 2019) sy'n ymwneud â dathlu caneuon yn yr iaith Gymraeg. Yn gyntaf, rhaid imi gyfaddef, i'm cywilydd, nad ydw i’n siarad Cymraeg. Ond, nid yw hynny'n golygu na allaf fwynhau gwrando a gwerthfawrogi cerddoriaeth Gymraeg.

Felly, dwi'n mynd i siarad am fy nhri artist Cymraeg orau ar hyn o bryd.

Alffa

Mae'r band hwn yn brawf nad oes raid i chi siarad Cymraeg i werthfawrogi ei seiniau hardd! Darganfyddais y rhain gyntaf wrth wrando ar y rhestr chwarae 'Rock This' ar Spotify tua blwyddyn yn ôl. Deuawd blues/roc o Lanrug, Gogledd Cymru sy'n chwistrellu riffiau mawr dros rhythmau drwm trwm. Dechreuwch â 'Gwenwyn', prynwch y tocyn a chymerwch y daith. Alffa yw’r band cyntaf gyda chân Gymraeg i daro dros 1 miliwn o ffrydiau ar Spotify, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i daro dros 2 filiwn o ffrydiau. Os ydych chi'n hoffi Royal Blood, The Black Keys neu blues roc, yna rhowch gynnig ar rhain.

Breichiau Hir

Band ôl-roc 6 darn o Gaerdydd sy'n cyfuno ymosodedd brysiog gydag alaw, yn eistedd rhywle rhwng emo a phync. Dywedodd Huw Stephens y bydd Breichiau Hir "yn eich gadael chi eisiau crio a dysgu Cymraeg" a dy’ ni ddim yn anghytuno ag ef. Rhyddhaodd y band sengl ddwbl ochr A 'Mewn Darnau' a 'Halen' ar label Libertino Records llynedd, ac ry’ ni wedi eu gwylio’n tanio’r sîn yng Nghaerdydd yn 2018. Os golloch chi ein sioe gyda IDLES, yna rhowch eich clustiau o amgylch rhain!

9bach

Mae enillwyr yr 'Albwm Gorau' yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2015, 9bach, yn cael eu caru’n angerddol ymhlith cylchoedd gwerin ledled y DU, gan gynnwys BBC Radio 2. Mae eu cerddoriaeth werin Gymreig wedi trawsnewid dros y blynyddoedd yn arddull nodedig a gwahaniaethol sy'n tynnu ar elfennau o gerddoriaeth byd, roc indie, jazz a phop arbrofol i fod yn chwechawd trawiadol ac arloesol. Perffaith i wrando arno os ydych chi eisiau ymlacio neu gael eich dannedd yn sownd yn rhywbeth dwfn ac ystyrlon.

Eisiau gwrando ar rhain a mwy? Yna cliciwch yma neu dewch draw i un o nifer o gyngherddau sy'n digwydd dros y penwythnos ar draws y wlad. 

Dolen Diwrnod Cerddoriaeth Cymru

Yn ôl
Cadw i fyny gyda'n holl newyddion a chyhoeddiadau.
Lleoliad Orchard
Cliciwch a sgroliwch i lawr i weld lleoliad Orchard.
© The Orchard Media and Events Group Ltd 2010 - 2019 | Build by Orchard. Powered by Symphony CMS
This site stores cookies on your device and collects analytical data to improve your browsing experience. Please read our privacy policy here for more details.