Groove Armada i Serennu yng Nghastell Caerffili mewn Sioe Haf Arbennig yng Nghymru

Bydd Groove Armada, sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau ac wedi'u henwebu am wobrau BRIT a Grammy, yn dod â'u sioe fyw anhygoel a'u sain unigryw i harddwch eiconig Castell Caerffili ddydd Sul 14 Gorffennaf 2019. Dyma fydd ymddangosiad byw cyntaf y ddeuawd chwedlonol yng Nghymru ers dros 10 mlynedd a'u hunig sioe yng Nghymru yr haf yma.

Mae Groove Armada wedi sefydlu eu hunain ers dros ugain mlynedd fel un o berfformiadau dawns mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y blaned. Maen nhw mor gyfforddus ar lwyfannau mawr ag y maen nhw mewn selerau bach chwyslyd, a byddan nhw'n hollol gartrefol yn perfformio yng nghastell mwyaf Cymru. O alawon meddal, hamddenol i guriadau electronig ac anthemau dawns bywiog, mae sioe fyw Groove Armada yn brofiad unigryw.

Bydd tocynnau ar werth am 10yb ddydd Gwener 10 Mai 2019 drwy www.ticketmaster.co.uk

Yn ôl

Archif

Hoffech chi ddarllen newyddion amdanom ni o flynyddoedd blaenorol? Edrychwch isod.

2010
2011
2012
2013
2014
2015
2016
2017
2018
2019
Cadw i fyny gyda'n holl newyddion a chyhoeddiadau.
Lleoliad Orchard
Cliciwch a sgroliwch i lawr i weld lleoliad Orchard.
© The Orchard Media and Events Group Ltd 2010 - 2019 | Build by Orchard. Powered by Symphony CMS
This site stores cookies on your device and collects analytical data to improve your browsing experience. Please read our privacy policy here for more details.