Gwneuthurwr ceir chwim moethus Prydeinig

Digwyddiad Trosglwyddo Swyddogol a Diwrnod Agored Cyhoeddus

Seremoni drosglwyddo

Yn 2017, cysylltodd gwneuthurwr ceir chwim moethus Prydeinig âg Orchard ynglŷn â rheoli'r digwyddiad hynod bwysig yn eu hanes i ddynodi trosglwyddo eu cwmni.

Roedd y rhestr gwesteion VIP yn cynnwys yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ogystal â dros 250 o gyfryngau’r byd a rhanddeiliaid lleol. 

Roedd y digwyddiad yn ddiwrnod llawn o areithiau, dosbarthiadau dylunio teithiau, rhwydweithio a chyhoeddiadau gan ein adran cefnogaeth cleient ar gyfer cronfa les yr ARF. Cyflenwodd Orchard faneri printiedig, seddi a dodrefn wedi’u creu yn arbennig ar gyfer y digwyddiad yn ogystal â’r holl AV, er mwyn sicrhau bod y digwyddiad o safon uchel. Gan weithio ar y cyd â'n tîm stiwdio grapheg, cynnhyrchom wahoddiadau *i’r mynychwyr a bathodynnau cynrychiolwyr. Roedd Orchard ar y safle trwy gydol y digwyddiad i wneud yn siŵr yn bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth.

Digwyddiad Cyhoeddus - Diwrnod Agored  

Cyflwynodd Orchard ddiwrnod agored yn eu safle ffatri newydd yn Sain Tathan - a rheoli’r digwyddiad hefyd. Roedd y Cleient yn awyddus i ymgysylltu â'r gymuned leol, felly cynlluniodd Orchard borth tocynnau a mynd ati i ddosbarthu dros 26,000 o wahoddiadau i'r ardal leol.

Gan weithio'n agos gyda thîm cyfathrebu y cleient, croesawom dros 16,000 o westeion ar y safle i weld dros 700 o geir arbenigol a chysyniadol.

Ar y safle gallai’r gwesteion ddewis o 18 o wahanol werthwyr bwyd, mynychu dosbarth-meistr dylunio, gweld awyren cludiant RAF Hercules ac awyren Red Arrow yr Awyrlu Brenhinol neu wylio arddangosfa gyrru deinamig.

Cadw i fyny gyda'n holl newyddion a chyhoeddiadau.
Lleoliad Orchard
Cliciwch a sgroliwch i lawr i weld lleoliad Orchard.
© The Orchard Media and Events Group Ltd 2010 - 2018 | Build by Orchard. Powered by Symphony CMS
This site stores cookies on your device and collects analytical data to improve your browsing experience. Please read our privacy policy here for more details.