Cydweithio ar newid hinsawdd

Croesawu Partner Elusennol newydd.

 

Ar ôl partneriaeth elusennol lwyddiannus am 3 blynedd gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein partneriaeth elusennol newydd ar gyfer 2022 gyda’r elusen hinsawdd flaenllaw Maint Cymru, gan ddefnyddio ein sgiliau cyfathrebu i helpu i godi arian ar gyfer cymunedau coedwigoedd ledled y byd a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwigoedd trofannol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

Bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu i atal a gwyrdroi dirywiad coedwigoedd trofannol yn fyd-eang. Lansiwyd Maint Cymru gyda chefnogaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn 2010, ac yn ystod ei 10 mlynedd gyntaf cefnogodd gymunedau i gynnal dros bedair miliwn hectar o goedwig drofannol (dwywaith maint Cymru!).

 

Gan weithio tuag at ein statws B Corp, y safon fyd-eang ar gyfer cwmnïau cymdeithasol ac amgylcheddol gyfrifol sy’n rhoi pwrpas uwchlaw elw, rydym eisoes wedi rhoi rhawiau yn y ddaear ar gyfer ein ‘Guarantree,’ addewid i blannu coeden bob tro y bydd darn newydd o waith yn cyrraedd, gyda pherllan ffrwythau yn tyfu’n gyflym yng Ngofod Celf Gwledig Coed Hills.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Orchard, Tim: “Mae Maint Cymru yn gwneud gwaith gwych i helpu i roi’r brêcs ar ddatgoedwigo ledled y byd, sy’n ffactor mor arwyddocaol yn y newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni eisiau defnyddio sgiliau a thalentau ein tîm yn Orchard i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith amhrisiadwy ac ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl Cymru i gymryd rhan, ochr yn ochr â’n hymdrechion lleol i blannu coed yn ein cymunedau ein hunain.”

 

Mae Maint Cymru yn cefnogi prosiectau coedwig ledled y byd, ac yn darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a brodorol yn Ne America, Affrica, a De Ddwyrain Asia. Yn ogystal, mae’r elusen yn cyflwyno rhaglen addysgol genedlaethol ac yn ymgyrchu dros weld Cymru yn dod yn ‘Wlad Heb Ddatgoedwigo’ a gwlad sy’n gwrthod mewnforio nwyddau bob dydd fel cig eidion, cacao a soi anghynaliadwy, sy’n achosi datgoedwigo mewn ardaloedd fel yr Amazon yn Brasil.

 

Dywedodd Nicola Pulman, Cyfarwyddwr Maint Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud Cymru’n rhan o’r ateb byd-eang i’r argyfwng hinsawdd a grymuso pawb i chwarae eu rhan. Rydyn ni felly wrth ein bodd yn gweithio gydag Orchard i ehangu’r neges bod amddiffyn coedwigoedd trofannol yn hanfodol i warchod bywyd ar ein planed ni a chwrdd ag ymrwymiadau hinsawdd byd-eang.”

 

Mae datgoedwigo a diraddio coedwigoedd y byd yn achosi mwy o allyriadau CO2 na holl drafnidiaeth y byd gyda’i gilydd. Mae Maint Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Affrica, De Ddwyrain Asia a De America i helpu i warchod coedwigoedd trofannol presennol a thyfu coed. Yn COP26, cyhoeddodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James AS, y bydd Llywodraeth Cymru yn newid ei pholisi caffael fel nad yw’n cyfrannu at ddatgoedwigo dramor.

 

Rydyn ni mor gyffrous am y bartneriaeth hon, gan weithio gyda’r elusen ar ei hymgyrchoedd a’i hymdrechion codi arian sydd i ddod, tra byddan nhw’n cynnig arweiniad a chymorth i’n tîm eco mewnol.

 

Ewch i weld eu gwaith anhygoel – www.sizeofwales.org.uk

Eisiau gweithio gyda ni?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd