
Orchard ar awen gelfyddydol yn Canary Wharf
Yma yn Orchard, rydym yn ffynnu ar gael ein herio yn greadigol, ac roeddent yn falch o fod yn rhan o brosiect gyfan gwbl newydd i ni ym myd y celfyddydau yn gynharach y mis hwn.
Gan ddefnyddio ein sgiliau creadigol i’w llawn effaith, darparwyd offer taflunio i Laban Transferred, gwaith diweddaraf yr artist rhyngwladol Wolfgang Weileder yn Canary Wharf yn Llundain fel rhan o Ŵyl Bensaernïaeth Llundain, y mwyaf o'i fath yn Ewrop.
Defnyddiodd Wolfgang, sy’n Athro Cerfluniaeth Cyfoes ym Mhrifysgol Newcastle, ffotograffau amlygiad hir du a gwyn ochr yn ochr â thaflunydd dwy sgrin newydd, a ddarparwyd gan Orchard, sy'n cyfosod darn dawns a grëwyd yn arbennig gan fyfyrwyr o'r Laban Conservatoire of Music and Dance ac aelodau o’r Charles Linehan Company, gyda'r fideo treigl-amser o ffasâd Laban yn cael ei adeiladu.
Dilynodd gwaith gosodiedig eleni gwaith yr haf diwethaf Transfer Laban, replica ar raddfa lawn o ffasâd buddugol y wobr Sterling RIBA o’r Conservatoire wedi ei adeiladu a'i ddadadeiladu, a chafodd ei weld gan filoedd. Roedd cread eleni yn cynnig y cyfle i bobl sy'n mynd heibio i fyfyrio ar swyddogaeth a dealltwriaeth o le cyhoeddus trefol fel amgylchedd diwylliannol, corfforaethol a masnachol.
Rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan mewn prosiectau creadigol ac fe oedd y prosiect penodol hwn yn sicr wedi cynhyrchu darn gwirioneddol trawiadol o waith! Rydym yn gobeithio taw hon yw’r cyntaf o nifer o gydweithrediadau gydag artistiaid!

