
Ionawr 24 2018
Blwyddyn Newydd, Yr Un Elusen
Blwyddyn arall gyda Huggard
Pan symudom ni i ganol y ddinas, daethom yn ymwybodol iawn o broblem digartrefedd Caerdydd, ac fe edrychom am ffyrdd y gallem helpu. Fe wnaeth Huggard argraff arnom ni gyda’u hymagwedd - nid darparu plaster dros glwyf ond rhoi gobaith hir dymor i bobl ar y stryd a'u helpu i osod trefn ar eu bywydau.
Mae storm berffaith yn dod, mae'r sefyllfa'n gwaethygu, a fydd yn gwneud Huggard hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yn y blynyddoedd i ddod. Gan fod swydd mor fawr i'w wneud, bydd Huggard yn parhau eleni fel ein elusen dynodedig - rydym yn ailadeiladu eu gwefan, codi arian trwy Orchard Eats, gigs a gweithgareddau, a helpu eu gwaith gwych ble bynnag y gallwn ni.