newyddion a syniadau.
Ali Morill

Orchard ar lwyfan gyda Visit Wales yn IMEX

Dewch i stondin F350, 15-17 Mai 2018!

Bydd ein Rheolwr Perthynas Cleientiaid, Ali Morrill, yn ymuno â Croeso Cymru ar stondin F350 yn #IMEX18 yn Frankfurt, Yr Almaen, yr wythnos nesaf (15-17 Mai).

Yn cael ei gynnal yn y Messe Frankfurt, sef un o leoliadau cynhadledd mwyaf y byd, yng nghanol Ewrop, mae IMEX yn rhoi mynediad i dros 3,500 o arddangoswyr i dros 5,200 o wneuthurwyr penderfyniadau byd-eang o 150+ o wledydd. Gyda dros 180 o siaradwyr a digwyddiadau rhwydweithio, IMEX yw'r lle i fod i arddangoswyr ym mis Mai.

Bydd Ali yn arddangos ein harbenigedd o ran digwyddiadau a rheoli cyrchfan, a bydd yn darparu profiad rhithwir syfrdanol ar y stondin hefyd. Felly, os gwelwch chi hi, byddwch yn siŵr o ddweud helo!

Dywedodd ein Cyfarwyddwr Digwyddiad Alastair Wilson: "Mae Cymru'n gymharol anhysbys yn y sector Digwyddiadau Busnes a MICE, felly rydym yn gyffrous i gefnogi cais y wlad i ddatblygu'r ochr hon o'r diwydiant. Mae potensial MICE enfawr yng Nghymru, dim ond i ni weiddi'n uwch amdano, a gyda'n gweithgareddau VR a’n partneriaid, dyna beth y byddwn ni'n ei wneud yn IMEX."

Gwnewch yn siŵr eich bod yn trydaru @thinkorchard neu cysylltwch â ni drwy [email protected] os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o'n gwasanaethau.

newyddion a syniadau.