
Cyfle Creadigol Newydd Mirella
Ry’ ni wrth ein bodd i gyhoeddi bod ein Cyfarwyddwr Cynhyrchu anhygoel - Mirella - wedi cael ei dewis i fod ar raglen clodwiw Cynhyrchu Creadigol BBC Cymru!
Wedi'i lansio yn 2012 gan Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, nod y rhaglen unigryw hon yw cynorthwyo gyda datblygu ymchwilwyr, cynhyrchwyr cynorthwyol neu gynhyrchwyr sy'n gweithio yng Nghymru. O weithio o fewn waliau'r BBC, mae myfyrwyr yn manteisio ar siaradwyr gwadd ac yn cael mynediad llawn i rai o'r darlledwyr gorau yn y busnes, gan wneud rhaglen Cynhyrchu Creadigol BBC Cymru yn un o'r rhai gorau.
Mae'r meini prawf dethol y rhaglen yn anodd gyda chymhwysiad a phroses gyfweld manwl - ond mae ein Mirella wedi goroesi!
Dywedodd Mirella ynglŷn â’i llwyddiant i gael lle ar y rhaglen, “Gallai ddim credu fy mod wedi cael lle ar raglen Cynhyrchu Creadigol y BBC, a nawr, gallai ddim aros i ddechrau ym mis Medi. Bydd y cwrs yn fy nysgu sut i ddatblygu rhaglenni a dyma'r cam nesaf yn fy natblygiad gyrfa fy hun ac o bosib mynd â'm syniadau o bapur i’r sgrin... Gobeithio! "
Mae Mirella bob amser wedi bod yn rhan annatod o'n tîm cynhyrchu, ac rydym wrth ein bodd y bydd hi'n gallu datblygu ei thalent ymhellach, ac yn dod â'r sgiliau hynny yn ôl i Orchard.
Pob lwc Mirella oddi wrthym ni gyd!