
Mae'r App BAPS ar y rhestr fer ar gyfer yr App Symudol Newydd Gorau
Mae'r App BAPS a lansiwyd yn ddiweddar (yr app cymorth ôl-driniaeth y cesail a’r fron) ar y rhestr fer ar gyfer yr App Newydd Symudol Gorau yn y Gwobrau App Symudol Gorau.
Dyluniwyd a chyflwynwyd yr App BAPS gan ein timau Creadigol a Thechnoleg Trochol ochr yn ochr â ffisiotherapyddion, llawfeddyg canser y fron a goroeswyr canser y fron yn dilyn adborth adeiladol gan gleifion am y wybodaeth ar ymarfer corff ôl-driniaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.
Bydd yr app yn cymryd cleifion ôl-driniaeth trwy ymarferion, yn rhoi syniad iddynt o’u gwelliant ac yn symud ymlaen gyda hunan-wiriadau ac yn eu gwobrwyo. Bydd hefyd yn anfon hysbysiadau i atgoffa'r defnyddiwr i wneud ymarferion yn ogystal â sbarduno’r claf i gysylltu â'u gweithiwr allweddol os nad yw pethau'n mynd fel y disgwyl fel y gallant eu helpu i gael ymyrraeth gynharach ac atal unrhyw oedi mewn derbyn unrhyw driniaeth arall (er enghraifft, Radiotherapi) oherwydd symudiad cyfyngedig. Mae hefyd yn anelu at annog hunanreolaeth, lleihau pryder y defnyddiwr a gobeithio y bydd yn rhoi synnwyr o gyflawniad a gwella eu lles cyffredinol.
Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn rhoi ychydig eiliadau o'ch amser i bleidleisio ar gyfer App BAPS Cymru (dim ond 1 bleidlais fesul cyfeiriad rhyngrwyd).