
Tymor Newydd. Partneriaeth Newydd.
Ry’ ni wrth ein bodd yn cyhoeddi ein cytundeb partneriaeth diweddaraf â Chriced Morgannwg fel eu Swyddog Digwyddiadau a Chyfryngau swyddogol.
Gydag enw da am ein harbenigedd wrth ddarparu gwasanaethau ar ran y sector chwaraeon, mae'r bartneriaeth newydd hon yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru, yn dilyn ymlaen o fod yn brif noddwr Uwch Gynghrair Menywod Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn ogystal â bod yn bartner Cyfryngau a Digwyddiadau newydd gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru.
Meddai’r Pennaeth Masnachol yng Nghriced Morgannwg, Huw Warren:
“Mae gweithio gyda Orchard fel ein Swyddog Digwyddiadau a Chyfryngau swyddogol cyntaf yng Nghriced Morgannwg dim ond yn helpu i dynnu sylw at natur arloesol eu busnes. Mae Criced Morgannwg yn cynnig llwyfan unigryw ar draws Cymru a Lloegr i hyrwyddo brand a gwasanaethau Orchard, ond mae hefyd yn darparu cynnwys o'r radd flaenaf i ni, cefnogaeth marchnata a digwyddiadau ar gyfer ein brand a fydd o fudd i'r ddwy ochr.”
Y Rheolwr Marchnata yn Orchard, Emma Wordley, yn sôn am y bartneriaeth
“Ry' ni eisoes yn mwynhau perthynas wych gyda Chriced Morgannwg ac rydym wrth ein bodd i gydweithio yn swyddogol fel eu Partner Digwyddiadau a Chyfryngau cyntaf. Fel cefnogwyr brwd chwaraeon Cymru, ac un o asiantaethau creadigol mwyaf Cymru, rydym am chwarae ein rhan yn eu llwyddiant yn y dyfodol "