newyddion a syniadau.
Bird's-eye view of a woman with her head in her hands in front of a laptop

5 o’n cynghorion craff i oresgyn straen yn y gweithle

Rhaid i ni ddysgu dweud na weithiau

Straen. Mae’n rhywbeth sy’n effeithio arnon ni i gyd, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Gall eich gwaith neu eich bywyd personol achosi straen, ac rydyn ni i gyd wedi teimlo’r faich sydd ar ein hysgwyddau. Does dim lle i bethau sy’n achosi straen yn ein bywydau, ac mae nifer o ddulliau rheoli straen ar gael a all ein helpu i fyw bywyd gyda llai o straen.

Fel rhan o’n partneriaeth elusennol gyfredol gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl, aethon ni i weithdai ar Les yn y Gweithle yn ddiweddar. Roedden ni’n awyddus i rannu’r 5 awgrym gorau ar sut i leihau straen a ddaeth allan o’r gweithdai yma er mwyn i chi eu rhoi ar waith yn eich bywyd bob dydd.

Dechreuwch drwy gael gwared ar y pethau sy’n achosi straen…

Gall straen fod yn gysylltiedig â’r gwaith neu’r cartref, ac mae nifer o arbenigwyr iechyd meddwl yn ogystal â’r gwasanaeth iechyd yn argymell eich bod yn nodi unrhyw beth yn eich bywyd y byddech chi’n ei alw’n ‘straenachoswr’. Unwaith rydych chi wedi adnabod rhain, dylech chi eu dileu nhw, neu ddod o hyd i ffyrdd o leihau’r straen maen nhw’n ei achosi. Gall hyn olygu dweud na os ydych chi’n rhy brysur, neu wneud mwy o ymarfer corff, neu hyd yn oed cadw rhai pobl allan o’ch bywyd.

Cadwch yn iach…

Efallai fod rhai pobl yn defnyddio alcohol, yn smygu neu’n defnyddio cyffuriau i’w helpu nhw i reoli neu leddfu straen, ond nid yw hyn yn ffordd iach o ddelio â’r peth yn yr hirdymor. Dylech fynd allan i’r awyr agored i gael gwared ar unrhyw straen. Mae treulio amser ym myd natur ac yn gwneud ymarfer corff yn ffyrdd gwych o gael gwared ar straen. Fydd hyn ddim yn atal y straen dros nos, ond maen nhw wedi’u profi i fod yn ffyrdd da o leihau straen a phryder. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

Yma yn Orchard, mae ganddon ni grwpiau sy’n mynd allan i redeg neu i’r gampfa amser cinio er mwyn cadw i symud yn ystod ein diwrnodau gwaith. Mae’n ein helpu i fod yn fwy creadigol hefyd!

Rhowch eich hun gyntaf weithiau…

Mae’n rhan o natur ddynol i roi teimladau pobl eraill yn gyntaf, cyn eich teimladau chi eich hun weithiau. Ond efallai bydd angen i chi ddweud ‘na’ wrth rai pobl er mwyn dweud ‘ie’ i chi’ch hun weithiau hefyd. Nid bod yn hunanol yw hyn, mae hyn yn eich galluogi i fod y gorau y gallwch chi fod i eraill – does dim o’i le drwy fod yn benderfynol pan fydd angen i chi fod. Y tu allan i’r gwaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn dianc o’r byd a gadael i’ch ymennydd ymlacio (meddwlgarwch yw’r gair heddiw). Peidiwch â syrthio i’r fagl technoleg ddigidol a diffoddwch yr hysbysiadau yna! DOES DIM angen i chi godi’r ffôn ac ateb yr e-byst gwaith yna y tu allan i oriau swyddfa.

Byddwch yn fwy trefnus…

Mae blaenoriaethu yn ffordd wych o gadw’ch ymennydd yn glir ac osgoi cyfnodau o straen, er enghraifft, y foment honno pan fo’r terfyn amser yn agosáu ac mae darn hollbwysig o’r gwaith yn dal heb ei wneud. Sicrhewch eich bod yn cyflawni’r darnau pwysicaf gyntaf, a gadewch yr elfennau di-bwys tan yn ddiweddarach. Mae llyfr gwych o’r enw ‘Eat that frog’ yn llawn o gyngor gwych ac rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen.

Fi fy hun…

Wyddech chi mai ni sydd â’r oriau gwaith hiraf yn Ewrop? Mae sicrhau amser i chi’ch hun yr un mor bwysig â phopeth arall. Dechreuwch drwy ddweud “ie!” i’r pethau rydych wir yn eu mwynhau – gwrando ar gerddoriaeth wych; darllen llyfr da; mynd i’r sinema neu siopa; neu hyd yn oed treulio ychydig o amser i eistedd mewn llonyddwch. Gwnewch yr hyn a fynnwch. Gyda’n bywydau prysur, mae hyd yn oed trefnu amser i chi’ch hun bron yn amhosib weithiau ac yn creu mwy byth o straen – OND, mae treulio’r amser hwnnw i chi’ch hun yr un mor bwysig â gwaith, os nad yn bwysicach.

Ni yw’n gelynion pennaf weithiau, ond drwy feithrin cryfder emosiynol da, gallwn oll helpu i leihau ein straen ein hunain a dechrau cymryd rheolaeth dros ein cydbwysedd bywyd/gwaith.

Mae’r dyfyniad hwn yn taro deuddeg i ni,

“Boed gennyf y tawelwch meddwl i dderbyn y pethau na allaf eu newid, y dewrder i newid y pethau y gallaf eu newid, a’r doethineb i wybod y gwahaniaeth rhwng y ddau.”

Yn olaf, ac yn bwysicaf, - siaradwch. Mae hi mor syml â hynny. Siaradwch ag aelod o’r teulu, ffrind, eich rheolwr neu gydweithiwr, neu ffoniwch un o’r llinellau ffôn isod. Siarad yw’r cam cyntaf, ac mae gan bawb gyfrifoldeb i gefnogi’n gilydd ac i siarad yn agored am iechyd meddwl.

Llinellau cymorth:

Samariaid: 116 123

Mind: 0300 123 3393

Rethink Mental Illness: 0300 5000 927

newyddion a syniadau.