newyddion a syniadau.

Groove Armada i Serennu yng Nghastell Caerffili mewn Sioe Haf Arbennig yng Nghymru

Caerphilly castle to be taken by storm this July

Bydd Groove Armada, sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau ac wedi'u henwebu am wobrau BRIT a Grammy, yn dod â'u sioe fyw anhygoel a'u sain unigryw i harddwch eiconig Castell Caerffili ddydd Sul 14 Gorffennaf 2019. Dyma fydd ymddangosiad byw cyntaf y ddeuawd chwedlonol yng Nghymru ers dros 10 mlynedd a'u hunig sioe yng Nghymru yr haf yma.

Mae Groove Armada wedi sefydlu eu hunain ers dros ugain mlynedd fel un o berfformiadau dawns mwyaf poblogaidd a llwyddiannus y blaned. Maen nhw mor gyfforddus ar lwyfannau mawr ag y maen nhw mewn selerau bach chwyslyd, a byddan nhw'n hollol gartrefol yn perfformio yng nghastell mwyaf Cymru. O alawon meddal, hamddenol i guriadau electronig ac anthemau dawns bywiog, mae sioe fyw Groove Armada yn brofiad unigryw.

Bydd tocynnau ar werth am 10yb ddydd Gwener 10 Mai 2019 drwy www.ticketmaster.co.uk

newyddion a syniadau.