
Rydyn ni’n falch o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
I ni, mae ein partneriaeth elusennol gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn fwy na phartneriaeth. Rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi iechyd meddwl, ac mae wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn fodd o atgyfnerthu hyn.
Eleni, y brif thema yw delwedd y corff. Sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am ein cyrff. Nod y Sefydliad Iechyd Meddwl yw lledaenu’r neges am y modd y gallu materion yn ymwneud â delwedd y corff effeithio ar bawb o bob oed. Yn ystod yr wythnos, mae’r Sefydliad hefyd yn cyhoeddi ymchwil newydd a’u hymgyrch dros newid. Gallwch ddarllen eu gwaith ymchwil diweddaraf am ddelwedd y corff yma.
Beth am gymryd rhan? Gallwch gefnogi’r achos drwy brynu bathodyn rhuban gwyrdd neu gynnal digwyddiad i godi arian. Gallwch chi hefyd ddangos eich cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #CarwchEichCorff.
Helpline numbers:
Samaritans: 116 123
Mind: 0300 123 3393
Rethink Mental Illness: 0300 5000 927