
Partner Creadigol Swyddogol TEDxCaerdydd 2020
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth gyda #TEDxCaerdydd 2020 fel eu Partner Creadigol. Gan ddychwelyd i Gaerdydd ar 1 Mawrth 2020, mae'r digwyddiad TEDx byd-eang yn cael ei gynnal mewn ysbryd o "syniadau sy'n werth eu rhannu", gan ddod â phobl ynghyd i "rannu profiadau TED" drwy fideos TEDtalks a siaradwyr byw. Rydych chi'n siŵr o adael wedi'ch ysbrydoli!
Meddai Alastair Wilson, Cyfarwyddwr Orchard,
"Yn union fel y mae TEDx yn ymroi i hyrwyddo syniadau, mae Orchard yn ymrwymedig i ddod â syniadau'n fyw. I ganolfan greadigol fel Orchard - technoleg, profiadau a chreadigrwydd yw sail ein bodolaeth felly mae ein partneriaeth barhaus â TEDx Caerdydd yn ein galluogi i weithio gyda phobl sy'n rhannu ein gwerthoedd, mewn amgylchedd lle gallwn gynnig gwir werth.
Rydym wedi'n cyffroi'n lân i fod yn bartner ar gyfer yr 2il flwyddyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm i hyrwyddo TEDx Caerdydd hyd yn oed ymhellach. "
Cynhelir y digwyddiad eleni yn:
Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd
Mae tocynnau ar gael yma.
Y cyntaf i'r felin...
#TEDxCardiff #TEDxCaerdydd