
Orchard Media and Events Group COVID-19 Gwybodaeth
Helo,
Yn ystod yr amser newidiol hwn, gyda phethau wedi newid cryn dipyn yn y 24 awr ddiwethaf, hoffwn rannau diweddariad ar weithrediadau Orchard.
Mae Orchard ar agor ac mi fyddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau i’n cleientiaid.
Mi fydd nifer o’r tîm yn gweithio gartref o brynhawn yma, ond mi fydd yna gnewyllyn craidd o staff, sydd ddim yn gallu gweithio o adref, yn parhau i weithio o’r swyddfa. Mae’n holl systemau yn gweithredu fel yr arfer. Mae pob aelod o’r tîm ar gael drwy’r sianeli arferol. Ffonau symudol ac e-byst yw’r ffyrdd gorau i gysylltu â ni.
Mae popeth yn parhau fel yr arfer cymaint a medrwn o dan yr amgylchiadau presennol.
Mae'n werth nodi fod Orchard yn darparu nifer helaeth o wasanaethau gwahanol yn cynnwys ffrydio byw, cysylltiadau argyfyngol, rheolaeth cyfryngau cymdeithasol, cefnogaeth greadigol, strategaeth ymgyrchoedd. Yn y cyfnod hollol newydd hwn, rydym yn hapus i drafod unrhyw wasanaeth fydd yn fuddiol i chi.
Fyddwn yn parhau i gynnig cymorth i chi fel cleient gwerthfawr, partner a ffrind ac yn mawr obeithio bydd ein busnesau yn goroesi’r misoedd nesaf, a gallwn ni weithio gyda’n gilydd yn effeithiol yn y dyfodol.
Cymerwch ofal,
Cariad Tîm Orchard.