Blog

AI dyma’r dyfodol? 

Cynnydd a datblygiad teclynnau Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni fynychu digwyddiad gan Agency Hackers o’r enw ‘The Robots are Coming’. Nod y digwyddiad oedd mynd i’r afael â sut y gall asiantaethau fel ni ymdrin â chynnydd a datblygiad aruthrol teclynnau Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Efallai mai taith diwrnod i Shoreditch oedd hi, ond roedd y siwrne yn mynd ymhellach na hynny. Gyda dros 5,000 o declynnau AI a mwy, yn effeithio ar bron pob agwedd o fusnes erbyn hyn, roedd hi’n siwrne angenrheidiol.

Yn bersonol, fe ddaeth OpenAI i’r amlwg i mi gyntaf wrth i mi wneud y camgymeriad o gyflwyno ChatGPT i fy mhlant sydd yn eu harddegau. Ers hynny, maent yn sôn ohyd am ba mor ddefnyddiol ydi o – gymaint felly rydym ni wedi dechrau cyfeirio ato fel CheatGPT!

Ond, yn broffesiynol, rydym yn wynebu’r her o gynnal mwynhad a chrefft y broses greadigol – y meddwl strategol, ein barn a’r gallu i guradu syniadau – y pethau hyn oll sy’n cymryd oes i’w meistroli. O safbwynt creadigol, byddwn yn brwydro i ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng yr ymennydd a deallusrwydd artiffisial am amser maith. 

 

Two people in the Orchard studio walking up and down a staircase

“O safbwynt creadigol, byddwn yn brwydro i ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng yr ymennydd dynol a deallusrwydd artiffisial am amser maith.”

Beth am y manteision? Fe wnaeth Dan o Brave Bison grynhoi AI yn ddigon taclus fel ‘cyfaill creadigol’ (‘creative wingman’) – mae lle iddo wrth y bwrdd, a gall eich synnu gydag ambell syniad gan nad ydi yn ‘meddwl’ yn yr un ffordd a fyddwn ni.

O gyd-destun busnes ehangach, dim ond crafu wyneb posibiliadau eraill ar gyfer AI y gwnaethom ni. Dangosodd Vincent o Get Inference i ni fod AI yn cael ei ddefnyddio’n ysgafn iawn, ar hyn o bryd. Ond, buan iawn y gwelwn ddatblygiad dramatig y tu hwnt i iaith ac i weledigaeth a rhagfynegiad, clystyru a phersonoli. Bydd gan offer AI sedd wrth rai o’r byrddau uchaf pan fyddant yn gallu gwneud argymhellion a chynnig gweledigaeth sydd tu hwnt i’n gorwelion ein hunain.

Holl bwrpas OpenAI yw ei fod wir yn agored ac mae rhai offer i’w cael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim, sy’n wych. Fodd bynnag, byddai meistroli’r offer hyn yn fantais enfawr. Rydym yn sicr yn archwilio ac yn arbrofi, fel y rhan fwyaf o bobl yn y sector asiantaethau. Mae’n ymddangos y gallai’r bygythiad posib hwn ar yr un pryd fod yn un o’r cyfleoedd mwyaf yn ein bywydau gwaith. 

Eisiau gweithio gyda ni?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd