Arloesi Digidol

Rydym yn gweithio gyda brandiau i greu datrysiadau arloesol yn y gofod digidol. Rydym yn adrodd straeon y gall pobl uniaethu â hwy, ac yn credu mai’r neges ddylai fod yn ffocws ac nid y dechnoleg sy’n ei chyflwyno. Rydym yn defnyddio technoleg newydd ac arloesol i helpu i gysylltu brandiau â’u cynulleidfaoedd.

Realiti Rhithwir
Fideo 360
Animeiddio
Datblygu Gemau

Meddwl yn flaengar

Rydym yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ac yn gweithio gyda chi o’r cysyniad i’r cyflwyno i ddatblygu syniadau sy’n herio cynulleidfaoedd i feddwl yn wahanol. Rydym yn addasu i bob cleient a briff i gynnig yr ateb cywir ar y platfform cywir. O’r we i realiti rhithwir (VR), animeiddio i ddatblygu gemau a phopeth yn y canol, rydym yn cynllunio, yn cynhyrchu ac yn darparu profiadau arloesol.

Syniadau dyfeisgar

Gan ganolbwyntio ar ymgysylltu, rydym yn dod o hyd i’r datrysiad digidol cywir i’ch her ac yn creu profiadau pwrpasol i gwsmeriaid, ymwelwyr, gwylwyr a defnyddwyr drwy ddefnyddio technolegau, platfformau a meddalwedd newydd ac arloesol. Rydym yr un mor fedrus wrth ddyfeisio teithiau realiti rhithwir ar gyfer atyniadau twristiaeth mawr ag yr ydym yn creu fideos hyfforddi corfforaethol ar gyfer busnesau.

Rydym yn creu profiad gwirioneddol gyfranogol i’w ddefnyddio mewn amgylcheddau realiti rhithwir unigol neu a rennir.

Datrysiadau cyfannol

Rydym yn creu profiad gwirioneddol gyfranogol i’w ddefnyddio mewn amgylcheddau realiti rhithwir unigol neu a rennir. Wedi’i brofi i fod yn hynod effeithiol ar gyfer dysgu ac empathi, yn ogystal â bod yn hynod ddifyr, rydym yn tywys eich cynulleidfa i fyd gwahanol. Rydym yn gwneud hyn drwy fideo 360, clustffonau realiti rhithwir, animeiddio, a gemau fideo y gellir cael mynediad iddynt drwy’r ddyfais fwyaf priodol, o ffôn symudol i fwrdd gwaith, clustffonau i dabledi.

Datblygiad cynyddol

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd diddorol o adrodd eich stori mewn fformat sy’n mynnu sylw eich cynulleidfa mewn ffordd sy’n briodol ac yn hygyrch. Rydym yn adolygu ein hymgyrchoedd a’n cynhyrchion yn gyson i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r datrysiad mwyaf effeithiol i’ch briff ac yn cadw ar y blaen i dueddiadau technoleg.

“Working with Orchard was an exciting and enjoyable opportunity. Right from the start, at the proposal stage, we were impressed. The process was faultless, and the delivery was excellent, we very much look forward to the next project!”
Dan Johnson
Marketing & Events Manager
Royal Mint

Diddordeb mewn profiad cyfranogol?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd