Cynnwys

Rydym yn cynllunio, yn creu ac yn casglu cynnwys sydd wedi ennill gwobrau, o ymgyrchoedd darlledu cenedlaethol i ffilmiau byrion cyfryngau cymdeithasol, marchnata brand ac animeiddio. Mae ein cynnwys yn cyrraedd miliynau o bobl ar draws amrywiaeth o gyfryngau bob dydd. Rydym yn cynhyrchu cynnwys wedi’i saernïo’n hyfryd sy’n pweru cyrhaeddiad, ymgysylltiad a chanlyniadau rhyfeddol.

Cynhyrchu Hysbysebion Teledu a Nawdd
Fideos Hyrwyddo
Creu Rhaglenni Teledu a Radio
Cynnwys Cymdeithasol a Digidol
Animeiddio a CGI
Cynnwys a Fideo 360 Cyfranogol

Gosod y naws

Effeithiolrwydd yw ein nod, a dyna pam rydym yn dechrau pob sgwrs gyda chleient yn holi am yr hyn maent eisiau ei gyflawni gyda’u hymgyrch, prosiect neu gynnwys. Pan fyddwn ni’n gwybod beth rydyn ni eisiau i’r canlyniadau fod, rydyn ni’n gweithio ar greu stori. Mae adrodd straeon wrth galon ein holl gynnwys, os yw hynny’n hysbyseb genedlaethol ar y teledu, yn neges wedi’i hanimeiddio ar TikTok, neu’n brofiad realiti rhithwir. Rydym yn gweithio gyda chi i greu cynnwys sy’n sbarduno ac sy’n creu canlyniadau.

Adrodd straeon mewn ffordd glyfar

Gan ddefnyddio ein profiad helaeth a’n gwybodaeth, rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu cynllun adrodd straeon. Rydym yn edrych ar ba gyfrwng fydd yn gweithio orau, beth yw anghenion a dymuniadau’r gynulleidfa, siwrnai’r defnyddiwr a’r cwsmer, manylebau platfform a’r arfer gorau diweddaraf. Rydym yn defnyddio methodoleg COPE (creu unwaith cyhoeddi ym mhobman), lle caiff cynnwys ei optimeiddio i weddu i bob platfform.

Behind the scenes on the Welsh Water video shoot.

Rydym yn deall y gelfyddyd, y grefft a’r wyddoniaeth sydd tu ôl i’r hyn sy’n creu cynnwys gwych, boed yn deledu a radio, fideo hyrwyddo, cynnwys digidol a chymdeithasol neu animeiddio, CGI a phrofiadau cyfranogol.

Cynhyrchu trawiadol

Rydym yn deall y gelfyddyd, y grefft a’r wyddoniaeth sydd tu ôl i’r hyn sy’n creu cynnwys gwych, boed yn deledu a radio, fideo hyrwyddo, cynnwys digidol a chymdeithasol neu animeiddio, CGI a phrofiadau cyfranogol. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhyrchu cyflawn, o ganfod lleoliad, cynhyrchu a chyfarwyddo, i ffilmio, golygu ac ôl-gynhyrchu, yn ogystal â datrysiadau marchnata cynnwys ar gyfer prif sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.

Canlyniadau effeithiol

Mae ein hymrwymiad i ansawdd ac effeithiolrwydd yn golygu mai ni yw’r dewis cyntaf i lawer o gyfryngau mwyaf y diwydiant, gan gynnwys y BBC, Channel 4, S4C a Sky. Rydym yn mesur ein llwyddiant ar gyfer pob ymgyrch i sicrhau ein bod yn gwbl flaengar yn y diwydiant cynnwys.

“Thank you to each and every one of you, and your wider teams, for your incredible help, support, enthusiasm, energy and drive to support us at Menter Caerdydd to deliver another ground breaking Tafwyl again this year!”
Manon Rees-O’Brien
Chief Executive
Menter Caerdydd

Chwilio am ddatrysiad cynnwys creadigol?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd