Cyngherddau byw mewn cestyll.

// amrywiol

Pan welwch eich hoff artist mewn lleoliad arbennig fe gewch chi ddwy seren am bris un! Dyna sydd yn ein meddyliau ni wrth gynhyrchu cyngherddau ar draws cyfres o gestyll mwyaf ysblennydd Cymru.

Crowds watch a band perform in the grounds of Cardiff Castle

Dechreuodd ar nos Lun ym mis Gorffennaf yn 2014 pan aethom ati i gyflwyno Paul Weller, eicon roc a rôl go iawn yn lleoliad anhygoel castell canoloesol Caerdydd, a leolir yng nghanol y brifddinas sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop.

Roedd hyn yn llwyr at ddant yr 8,500 o selogion brwd a ddaeth i Gastell Caerdydd y noson honno i weld y ‘Modfather’ yn perfformio set ryfeddol o’r hen glasuron yn ogystal â deunydd newydd.

Yn 2015 fe fentron ni i Gastell Penfro, gyda’r sêr amryddawn, Only Men Aloud ar gyfer digwyddiad arbennig arall, gan ddychwelyd yno ym mis Gorffennaf 2016 i gyflwyno tair noson o adloniant gyda Jools Holland a'i Gerddorfa Rhythm & Blues, Jamie Lawson ac Abba Revival.

Yn ystod haf 2016 daethom â’r criw enwog a gwallgo, Madness i gymoedd y de, ar gyfer sioe yng Ngerddi hardd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful. Castell Caerffili oedd ein cyrchfan nesaf gyda’r  cyngherddau byw awyr agored cyntaf i’w cynnal yno, wrth i'r amddiffynfa ganoloesol groesawu yr enwogion Britpop anhygoel sef Ocean Colour Scene a Tony Hadley o Spandau Ballet, mewn dwy noson.

Yn 2018, cynhaliwyd dwy o sioeau mwyaf anhygoel yr haf yng Nghastell Caerdydd gyda Pete Tong a The Heritage Orchestra a Catfish and the Bottlemen. 

Yn 2019, dychwelwyd i Gastell Caerdydd gyda sioe gan Noel Gallagher and the High Flying Birds, ac yna gyfres gyngerdd yng Nghastell Caerffili gyda'r ddau benwythnos gorau eto, gan gynnwys sioeau gyda Black Stone Cherry, the Stranglers, Public Service Broadcasting a'r Zutons.

Ar gyfer y prosiectau hyn, roedd ein tîm Live yn gyfrifol am yr agweddau canlynol: Archebu artistiaid, tocynnau, marchnata, y we a’r cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, cynllunio, cynhyrchu a rheoli, cydlynu safleoedd, trefniadau artistiaid, cynllunio cludiant, rheoli llety, cyd-gysylltu â’r artistiaid, a rheolaeth lawn o’r digwyddiadau.

Crowds watch a band perform, with Cardiff Castle lit up in the background
Gig at Caerphilly Castle
Pete Tong playing at Cardiff Castle