Cyngherddau Stadiwm Eirias.

// Cyngor Conwy

Y briff

Datblygu Stadiwm Eirias Bae Colwyn (sy'n cael ei adnabod nawr am resymau nawdd fel Stadiwm Zip World) yn Ganolfan gyngerdd â chapasiti ar gyfer 15,000.

Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn, gyda'r digwyddiadau'n cael eu noddi gan Gymdeithas Adeiladu'r Principality.

Lionel Richie performing onstage

Profodd blwyddyn Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain yn gatalydd ar gyfer digwyddiadau mawr yn y stadiwm chwaraeon amlbwrpas, wrth i ni gynnal diwrnod dathlu'r Gemau Olympaidd ddydd Gwener 27 Orffennaf 2012, ac yna ddigwyddiad agoriadol Access All Eirias, gyda pherfformiadau gan Olly Murs, Pixie Lott a mwy.

Roedd llwyddiant y digwyddiad yn golygu y byddai Access All Eirias yn dychwelyd i Stadiwm Eirias yn 2013, gyda'n tîm ni yn sicrhau sêr yr X Factor, Little Mix i serennu mewn digwyddiad oedd hefyd yn cynnwys artistiaid blaenllaw fel Conor Maynard a Wiley. Roedd ail ddiwrnod yn canolbwyntio ar y teulu sef  'Lleisiau yn y parc' gyda The Overtones yn perfformio i dorf o filoedd, fel penllanw i ddigwyddiad llwyddiannus arall.

Yn Access All Eirias yn 2014 gwelwyd y seren fyd-eang Syr Tom Jones a'r enwog Jessie J yn serennu ar nosweithiau olynol, tra yn 2015 fe groesawodd Eirias ei seren fwyaf eto, gyda Syr Elton John yn perfformio i stadiwm orlawn. Parhaodd yr enwau chwedlonol yn 2016, gydag Orchard Live yn sicrhau'r seren Lionel Richie a fu'n swyno'r dorf gyda'i gatalog o ganeuon enwog, ac yna Bryan Adams yn ymuno â'r rhestr o enwogion yn 2017 cyn Paloma Faith yn 2018.

Mae'r cynhyrchiad wedi ennill gwobrau cenedlaethol am y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - gan ennil Gwobr Partneriaeth Gynhyrchu'r Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol y Gymdeithas Digwyddiadau Awyr Agored (NOEA) yn 2013, tra bod tîm cyfathrebu a marchnata Conwy hefyd wedi cipio Gwobr Trefnydd Digwyddiadau'r Flwyddyn.

Bu’n timau'n gyfrifol am yr agweddau canlynol: Archebu artistiaid; Tocynnau; Marchnata; Digidol (dylunio logo a datblygu'r we); Cysylltiadau Cyhoeddus; Cynhyrchu Cynllunio a rheoli; Cydgysylltu safleoedd; Rheoli trafnidiaeth a logisteg, Rheoli Llety, Cyd-gysylltu a rheoli'r artistiaid, a rheoli digwyddiadau'n llawn.