Brandio J+D Consulting.
Y briff
Deall gweledigaeth a syniadau J+D Consulting, a'u tywys ar daith o esblygu’r brand.

Amcanion allweddol
- Dadansoddi pob rhan o'u brand a'i roi'n ôl at ei gilydd eto
- Gweld pa mor bell y mae J+D Consulting yn gallu gwthio eu brand mewn diwydiant sydd fel arall yn brin o ysbrydoliaeth ym maes rhagolygon fferyllol
Ateb
Fe wnaethon ni greu, adeiladu, a gwireddu.
Rydyn ni wrth ein boddau yn rhoi byd ein cleient o dan y chwyddwydr, felly fe wnaethon ni dreiddio'n ddwfn i hunaniaeth J+D. Roedden ni'n awyddus i gadw hanfodion a gwerthoedd craidd J+D, ond hefyd eu helpu i gyfleu'r gwerthoedd hyn drwy iaith weledol gryfach. Ein prif ffocws oedd creu hunaniaeth brand sy'n sefydlu J+D fel arweinydd yn eu diwydiant, ochr yn ochr â slogan: ‘The Shape of Things to Come’.
Gyda hyn, daeth tôn llais gwell, amrywiaeth o hunaniaethau sy'n adlewyrchu'r personoliaethau a'r hyn y mae'r busnes yn ei gynnig, creu gwrthrychau 3D, animeiddio a deunydd cyflwyno, i gyd yn seiliedig ar ganllawiau brand anhygoel i helpu i symleiddio'r cymhleth a dyrchafu'r arferol. Buom yn gweithio gyda siapiau a ysbrydolwyd gan giwb SOMA i feithrin y cysyniadau creadigol a'r delweddau gweledol ar gyfer y brand. Roedden ni wrth ein boddau gyda'r syniad bod gan bob siâp bwrpas tuag at adeiladu rhywbeth mwy, yn union fel J+D.
Rydyn ni'n parhau i weithio gydag J+D ac yn parhau i fod dan gontract fel eu hasiantaeth o ddewis ar gyfer holl ddeunydd brand J+D.
