Canfod lleoliad ar gyfer cynhadledd feddygol Amsterdam.
Y briff
Dod o hyd i leoliad yng nghanol y ddinas yn Amsterdam, yn agos at y maes awyr rhyngwladol, a chreu rhaglen gynadledda ar gyfer cynhadledd feddygol.

Amcanion allweddol
- Dod o hyd i westy 5 seren fel lleoliad ar gyfer cynhadledd feddygol ar gyfer dros 250 o gynadleddwyr
- O fewn amserlen 6 wythnos!
Ateb
Buon ni’n gweithio'n agos gyda'r cleient a thîm rheoli prosiect y cleient i ddod o hyd i westy a fyddai'n gwireddu eu hanghenion, yn ogystal â sicrhau'r cyfleusterau cynadledda diweddaraf, er mwyn cynnal eu cynhadledd yn Amsterdam. Gan droi at ein partneriaid yn Amsterdam i gynorthwyo yn y gwaith o ganfod y lleoliad, nid yn unig y canfuom westy o'r radd flaenaf, ond hefyd cafwyd tri lleoliad swper ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol gyda'r hwyr a’r cyfan wedi eu lleoli yng nghanol y ddinas ac o fewn pellter cerdded i'w gilydd, gan ddileu’r angen am unrhyw drefniadau cludiant.
Yr oedd y prif gyfarfod ei hun yn cynnwys gweithdai amrywiol, cyfarfodydd lloeren, arddangosfeydd a mannau rhyngweithio, a gwnaethom drefnu pob un ohonynt oddi mewn i’r gwesty, diolch i waith amserlennu medrus.
Roedd ein tîm hefyd ar y safle i greu a rheoli'r holl gynnwys ar gyfer y prif sesiynau, ac i ddarparu cymorth ar gyfer pob sesiwn grŵp.

