Dylunio stondin arddangos bwrpasol ar gyfer yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
// Coleg Cymraeg
Y briff
Fe'n comisiynwyd i greu cysyniad newydd ar gyfer dyluniad stondin, a oedd atyniadol ac unigryw ac yn targedu demograffeg oedolion ifanc. Yn ogystal â'r elfen ddylunio, roedden ni hefyd yn gyfrifol am waith adeiladu a logisteg ac am ddarparu'r holl gynnwys clyweledol.

Amcan allweddol
- Rhoi llwyfan effeithiol ac atyniadol i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol allu ymgysylltu â darpar fyfyrwyr; rhieni; athrawon, a rhanddeiliaid allweddol
Ateb
- Fe wnaethon ni greu ymdeimlad o siop goffi gyfoes ar y stondin a oedd yn cynnwys gwaith celf mewnol ac allanol, celfi wedi'u gwneud yn bwrpasol, llwyfan, man cyflwyno gyda sgrin fformat fawr (yn yr Eisteddfod yn unig), 'cornel pincio' – a oedd yn caniatáu i gystadleuwyr gael eu hunain yn barod ar gyfer y llwyfan, derbynfa a gofod storio.
- Fe ddefnyddion ni ffyrdd unigryw i bobl ymgysylltu â'r stondin, megis wal sylwadau bwrdd du, gemau a wal grefftau.
- Darparwyd technegydd i fod yn bresennol ar y stondin ar gyfer y digwyddiad cyfan
Cafodd y stondin adborth gwych gan y cleient, y trefnwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
