Mae Bwrdd Orchard Media and Events wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i fasnachu ac wedi cyfarwyddo Menzies LLP i roi’r cwmni yn nwylo’r diddymwyr.

Yn y misoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi gwynebu heriau marchnad sy’n lleihau a chystadleuaeth gynyddol. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle nad oedd graddfa ac ansawdd ein gwaith yn gynaliadwy. Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd ein tîm staff ymroddedig ac arbenigol i gyflawni canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid.

Mae gan Orchard hanes llwyddiannus fel cwmni ers i ni gael ein sefydlu yn 2010. Tyfom yn sylweddol, gan ddatblygu ein gwasanaethau ac ymateb i anghenion cleientiaid, a daethom yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr yn 2024.

Hoffem ddiolch i’n cleientiaid, ein cyflenwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth.

Bydd Menzies LLP yn cysylltu â’r holi gleientiaid a chyflenwyr perthnasol cyn gynted â phosibl.

Dylid anfon pob gohebiaeth at LAsekome@menzies.co.uk

Cymeradwyaeth gan

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd