Ni yw Orchard
Rydyn ni’n dod ag uchelgais a chreadigrwydd i bob her, gan gynnig atebion grymus.
Wedi ein sefydlu yng Nghymru, rydyn ni’n ddigon bach i falio ac yn ddigon mawr i gyflawni, ac rydyn ni’n cael ein gyrru gan uchelgais ar gyfer ein cleientiaid, ein gwaith a’n pobl.
Ein nod yw creu partneriaethau parhaol, ac fel cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr, mae’r tîm cyfan wedi ymrwymo i’ch llwyddiant hirdymor.
Ffordd Orchard
Mae ein ffordd o weithio yn sicrhau effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chanlyniadau mesuradwy.
| Briff | Bydd ein tîm yn gweithio er mwyn deall eich her. |
| Darganfod | Byddwn ni’n sicrhau cysondeb o ran amcanion, cynulleidfaoedd a’ch dymuniadau chi. |
| Creu | Byddwn ni’n cynllunio ac yn creu’r atebion cywir gyda chi. |
| Cyflawni | Byddwn ni’n cyflawni prosiect cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau’r canlyniadau cywir. |
| Mireinio | Byddwn ni’n mesur, yn dysgu ac yn gwella gyda’n gilydd. |
Ein Gwasanaethau
- Creadigol
- Arloesi Digidol
- Cynnwys
- Digwyddiadau a Phrofiadau
- Cyfathrebu
- Nawdd a Phartneriaethau
Ein busnes
Fel busnes sydd wedi ennill gwobrau, uchelgais sy’n ein gyrru ni. Rydyn ni’n malio sut rydyn ni’n gwneud busnes. Fel aelodau o’r IPA, rydyn ni wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o ran effeithiolrwydd ac arferion gorau.
Rydyn ni wedi ein hachredu gan y Siarter Busnes Da – ein hymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i gleientiaid. Rydyn ni’n annog cyfathrebu ac adborth gonest, a byddwn ni’n mynd i’r afael â’ch sylwadau gan eu rhannu ar draws y tîm.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i ddod yn gwmni sero net erbyn 2050 – cliciwch yma i ddarllen ein cynllun lleihau carbon a chliciwch yma i ddarllen ein polisi cynaliadwyedd.



Ein Tîm
Achrediadau















































