Gorau Chwarae, Byd Chwarae

Ymgyrch Wales Nation Brand Cwpan y Byd FIFA

Yn ein rôl Cynhyrchu a Dosbarthu Cynnwys ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Orchard reoli ymgyrch farchnata fyd-eang o amgylch ymddangosiad cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA ers 64 o flynyddoedd.

Gan gydweithio gyda phartneriaid o’r C/O Cymru Collective (Morgan Lloyd, iCrossing, Weber Shandwick, Uned Studio a Working Word) fe wnaethom greu ffilmiau disglair yn arddangos ein gwerthoedd Cymreig o gynhesrwydd, croeso a hiwmor – wedi’u ffilmio ar lawr gwlad o fewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Fe wnaethom alw ar sêr i ddangos eu cefnogaeth i dîm Cymru gan anfon dros 1,000 o becynnau cefnogwyr o amgylch y byd, creu het fwced enfawr a ddaeth yn un o brif atyniad cyfryngau’r byd, a chyflwyno’r Gymru fodern i gynulleidfa o bum biliwn o wylwyr.

Strategaeth greadigol
Brandio
Dylunio graffig
Cynhyrchu a dosbarthu cynnwys
Gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus
Ymgyrchoedd digidol
Trefnu digwyddiadau

Roedd angen i ni greu ymgyrch gyfathrebu aml-sianel oedd yn manteisio ar ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA gan godi ymwybyddiaeth o’r wlad, ein brand Nation a’n gwerthoedd i gynulleidfa enfawr yn fyd-eang – yn enwedig mewn gwledydd sy’n berthnasol i dwristiaeth a busnes, fel yr UDA, yr Almaen, Ffrainc a Sbaen.

Cawsom y dasg o gyflwyno Cymru i gynulleidfa hollol newydd; herio rhagfarnau am Gymru, ymgysylltu â’n diaspora byd-eang, ac ysbrydoli’r Cymry. Roeddem am arddangos Cymru fel cenedl agored, flaengar gyda chyfleoedd busnes a thwristiaeth o’r radd flaenaf, yn ogystal â sicrhau gwaddol i’r ymgyrch.

Fe wnaethon ni greu Cynnwys amrywiol fel cyfres o ffilmiau a fideos cerddoriaeth amgen. Cynhyrchwyd rhaglen ar gyfer S4C ar gyfer digwyddiad ‘Cymru a’r Byd’ yn Times Square, Efrog Newydd, yn cynnwys y sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney; a ffilmio amrywiaeth o gynnwys cysylltiedig oedd yn cynnwys pobl fel Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney.

Fe wnaeth ein tîm Cyfathrebu arwain ar ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus rhyngwladol, yn benodol yn y DU, UDA, Ffrainc, Sbaen, India, Tsieina, Canada ac wrth gwrs Qatar. Fe wnaethom yn siŵr bod Cymru yn dod yn gyfarwydd gyda’r ymgyrch, ac fe aethom i mewn i’r cymunedau gan ddefnyddio lleisiau ar lawr gwlad i adrodd ein stori. Fe wnaethom groesawu dylanwadwyr bwyd o’r UDA i Gymru a rhoi gwledd Gymreig iddynt. Roeddem yn helpu i hyrwyddo rhaglen ddiwylliannol Gŵyl Cymru, gweithio gyda National Geographic i wthio ymwybyddiaeth ac ystyriaeth ar gyfer teithio, a sefydlu a rhedeg partneriaeth gyfryngau gwerthfawr rhwng Visit Wales ac Expedia.

Rhoddodd ein tîm Actifadu dome arbennig ar lannau’r afon Tafwys yn Llundain, a het bwced Cymru anferth yn Qatar. Ni oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r digwyddiad carped coch yn ‘Times Square’; ac i ennyn diddordeb cefnogwyr ar draws y byd, fe wnaethom greu dros 1,000 o becynnau anrhegion oedd yn cynnwys crysau wedi eu brandio, hetiau bwced, sgarffiau a mwy a’u hanfon at enwogion ledled y byd.

Fe wnaethom ddefnyddio ein sgiliau Creu trwy gydol yr ymgyrch ar amrywiaeth o ddeunyddiau ar gyfer gwahanol agweddau gan gynnwys y pecynnau anrheg.

+ Canlyniad ffigyrau sianeli digidol a marchnad +1,080% yn uwch na’r disgwyl (cyfanswm o 677,999 clic).

+ Cynyddodd cyfran fyd-eang llais Cymru (ymysg gwledydd y DU) 2% ers yr Adroddiad Halo diwethaf (cyn yr ymgyrch)

+ Rheoli 66 o gyfweliadau gyda chyfryngu byd-eang fel Reuters, Al Jazeera, France24, AFP a BBC World 

+ Enillodd yr ymgyrch National Geographic 4.2 miliwn o argraffiadau, 5.5K o ymgysylltiadau a 8.4K clic at y cynnwys â thâl

Edrych am ymgyrch traws-sianel?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd