Marchnad Dydd Gŵyl Dewi, Spitalfields’ Lamb Street

Cawsom y dasg o greu marchnad fwyd dros dro 2 ddiwrnod a fyddai’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn arddangos Bwyd a Diod Cymru yng Nghanol Llundain. Roedd hyn yn cynnwys dod o hyd i leoliad, dylunio a rheoli safleoedd, dylunio arddangosfeydd a rheoli brand, recriwtio cynhyrchwyr yn ogystal â gosod lan, gwaith tech, rheoli digwyddiadau, a dad-rigio

Rheoli Arddangosfeydd
Recriwtio a Rheoli Cynhyrchwyr
Rheoli Prosiectau
Rheoli Technegol
Dylunio Creadigol
Lluniadau Llawr CAD
Rheoli Stoc
Gosod Pŵer Dros Dro
AV
Dod o Hyd i Leoliad

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Menter a Busnes, llwyddwyd i hwyluso proses recriwtio i ddewis detholiad o’r cynnyrch Cymreig gorau. Fe wnaethom estyn allan at dros 20 o gynhyrchwyr, a dewiswyd 12 ohonynt i gymryd rhan yn y Farchnad Dydd Gŵyl Dewi.

Wnaeth Josh, ein Cynllunydd Arddangosfeydd creu lluniadau CAD o gynlluniau arfaethedig, yn ogystal â rendradau i arddangos potensial y lleoliad a benderfynwyd, gan helpu’r cleient i nodi cwmpas llawn y prosiect, a dod â’r cyfan yn fyw iddynt.

Ar gyfer lleoliad, fe wnaethom ddewis canolfan fwyd Spitalfields yn Llundain yn strategol fel ein cynfas. Yn lleoliad gwych i bawb sy’n bwyta bwyd, daeth y gofod hwn yn gefndir i’n marchnad 12 cynhyrchydd.

1/6

Ochr yn ochr â Stryd Lamb, fe wnaethom sicrhau Sgwâr yr Esgob at ddibenion hyrwyddo, gan staffio’r ardal i ddenu pobl i’r farchnad. Ategwyd hyn gyda chyfleoedd cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys llythrennau mawr yn sillafu ‘Wales’ a ‘Cymru’ a wal cennin pedr, y cyfleoedd tynnu lluniau perffaith i unrhyw un oedd yn bresennol!

Roedd y farchnad yn cynnwys 12 gasebo, un wedi’i neilltuo i bob cynhyrchydd, a oedd wedi’i deilwra i ofynion y cynhyrchwyr gydag oergelloedd neu fwrdd, pŵer ac yn olaf, cefndir brand 2x2m, y gallent wedyn ei gadw ar ôl y digwyddiad.

Er mwyn denu’r torfeydd, fe wnaethom gynnig tryc bwyd wedi’i frandio gydag arddangosiadau bwyd byw gan y Cogydd Cymreig uchel ei barch, Nerys Howell, ynghyd â pherfformiadau gan Gôr Cymreig, a darparwyd yr holl dechnoleg o’r rhain. Yn ogystal â hyn, gosodwyd baneri a byrddau-A yn hyrwyddo’r digwyddiad yn strategol o amgylch y safle i gyfeirio pobl at y farchnad.

“Digwyddiad ardderchog – wedi’i drefnu’n arbennig o dda a chyfle gwych i gwrdd â chwsmeriaid newydd a hir sefydlog yn Llundain – argymhellir yn gryf. Ni allaf eu canmol ddigon.”

Roedd y nifer o ymwelwyr a’r ymgysylltiad dros y penwythnos yn uwch na’r disgwyl gan y cleient a’r cynhyrchwyr, ac mae’r pwyllgor cymdogaeth wedi ein croesawu’n ôl i ail-greu’r digwyddiad y flwyddyn nesaf – adborth nad yw’r lleoliad wedi’i gael o’r blaen.

Yn edrych i gynnal digwyddiad neu brofiad?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd