Mewn byd cynyddol ddigidol, gyda thechnoleg yn datblygu ar wib, gall y dasg o sicrhau fod eich gwefan yn sefyll allan fod yn heriol. Heb os, gall gwefan slic ddenu darpar gleientiaid a’ch rhoi ar flaen y gad ymysg cystadleuwyr ond yn y bôn, sicrhau fod gennych gynnwys cyfredol fydd wir yn effeithio sut fydd pobl yn cymryd sylw o’ch brand.

 

1. Golwg a theimlad ffres

Mantais amlwg diweddaru eich gwefan yw’r cyfle i newid y dyluniad. Mae gwefan yn adlewyrchiad o’ch cwmni i’r byd y tu allan. Fodd bynnag, mae cymaint mwy i hyn na’ brandio newydd a defnyddio delweddau o safon. Ydych chi wedi ystyried defnyddwyr ffonau symudol yn y dyluniad? Mae’n debygol y bydd cyfran fawr o’r traffig i’ch gwefan yn dod trwy ddyfeisiadau symudol, ac nid oes unrhyw beth gwaeth na cheisio edrych drwy wefan ar eich ffôn sydd heb ei chynllunio ar gyfer hynny.

2. Cynnwys arloesol

Gall ysgrifennu rhith o gopi newydd ar gyfer gwefan fod yn isel ar y rhestr flaenoriaeth pan mae rhywun yn brysur. Ond gall darparu cynnwys wedi’i ddiweddaru ar eich gwefan helpu i feithrin ymddiriedaeth rhyngoch chi a’ch cleientiaid. Mae cynulleidfaoedd eisiau darganfod gwybodaeth newydd a’r ateb i’w problemau – dim ots beth yw’r sector. Nid yn unig y mae hyn yn meithrin ymddiriedaeth, ond mae’n helpu’n aruthrol gyda SEO. Mae awdurdod parth yn cael ei bennu gan faint o awdurdod sydd gan eich gwefan ar bynciau penodol, ac mae hyn yn cael ei greu drwy ddiweddaru gwybodaeth ddefnyddiol yn gyson. Mae gwefannau gydag awdurdod parth uchel, megis Wikipedia, diolch i gynnwys sy’n cael ei ymchwilio’n drylwyr a’i adolygu’n gyson yn fwy tebygol o gyfateb ymholiadau sy’n cael ei chwilio’n Google. Dydi hi byth yn edrych yn dda pan mae gan wefan hawlfraint o 2015 a’r holl gynnwys yn edrych yn hen ffasiwn. Gall hyn arwain at gwsmeriaid i amau os yw’r cwmni dal i fod mewn busnes os yw hyd yn oed yn cyrraedd tudalen gyntaf canlyniadau’r gwefannau chwilio.

3. Canolbwyntio ar SEO

Mae diweddaru’ch cynnwys yn rheolaidd yn caniatáu i chi gadw ar ben y tueddiadau, nid yn unig ym myd technegol, ond hefyd drwy sicrhau eich bod yn taro’r geiriau allweddol i gadw safle da yng nghanlyniadau’r gwefannau chwilio. Efallai fod hyn yn amlwg, ond os nad ydi garej ceir yn cynnwys tudalennau ar eu gwasanaethau – megis MOT, atgyweirio sgriniau gwynt – ni fydd y geiriau allweddol yn cael eu nodi. Mae cadw’r geiriau allweddol yn ffres yn bwysig, yn enwedig wrth ehangu i wasanaethau, cynnyrch neu ardaloedd newydd.

4. Cywirdeb targedu

Dylai adnewyddu eich gwefan ganolbwyntio ar yr hyn yr ydych am ei gynnig i farchnad darged eich gwefan, gan droi ymwelwyr yn gwsmeriaid. Ydych chi eisiau argyhoeddi darpar gleientiaid gyda’ch gallu dylunio? Yna mae edrychiad eich gwefan yn hollbwysig. Ydych chi am gyfeirio pobl at eich cynnyrch yn syth? Yna bydd safle hawdd ei lywio yn hanfodol er mwyn cynnal diddordeb.

Gall eich marchnad darged newid dros amser, wrth i chi ehangu eich cynigion, ac i adlewyrchu hyn bydd rhaid diweddaru cynnwys eich gwefan yn gyson. Yn yr un modd, mae modd y mae pobl yn defnyddio gwefannau a phrynu gwasanaethau’n newid yn gyson – fwyfwy ers y pandemig. Mae eich cleientiaid a’ch cwsmeriaid eisiau mynd ar daith gyda chi, felly mae’n bwysig sicrhau fod eu profiad ar eich gwefan yn eu hannog i edrych yn bellach, trwy alwadau effeithiol i weithredu a chynnwys clir, wedi’i dargedu.

Eisiau gwybod sut y gallwn eich helpu gyda datrysiad creadigol i’ch her cynnwys?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd