Ni wedi cynhyrchu rhaglen arbennig pen-blwydd dau ran, The Impossible Show: Tsunami Relief Concert, i nodi 20 mlynedd ers cyngerdd codi arian mwyaf Cymru erioed. 

Mae’r rhaglen ddogfen, sydd i’w darlledu ar BBC Cymru Wales a BBC iPlayer, yn datgelu’r daith ryfeddol y tu ôl i’r llenni o’r digwyddiad a gododd dros £1.25 miliwn ar gyfer dioddefwyr y tsunami ar Ŵyl San Steffan. 

Ar 22 Ionawr 2005, dim ond tair wythnos ar ôl i tsunami dinistriol daro Indonesia, gan hawlio dros 230,000 o fywydau, ymgasglodd 66,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd (sydd bellach yn Stadiwm y Principality) ar gyfer cyngerdd elusennol llawn sêr. Gyda pherfformiadau gan Eric Clapton, Manic Street Preachers, Stereophonics, Craig David, Katherine Jenkins, a Snow Patrol, daeth y digwyddiad yn gyngerdd elusennol mwyaf y DU ers Live Aid. Darlledwyd y digwyddiad yn fyw gan BBC ac S4C, gan osod Cymru wrth galon ymdrechion cymorth byd-eang. 

Roedd y cyngerdd yn llwyddiant yn erbyn pob disgwyl. Gweithiodd y trefnwyr Paul Sergeant, Pablo Janczur, a Rupert Moon, gyda chyllideb o £50,000 a heb unrhyw artistiaid wedi’u cadarnhau ar y dechrau, gan ysgrifennu eu cynllun ar gefn mat cwrw. Wynebodd eu hymdrechion sawl rhwystr, gan fygwth dymchwel y digwyddiad cyn iddo hyd yn oed gael ei gyhoeddi. Serch hynny, drwy benderfyniad diysgog, cyflwynodd y tîm noson a oedd yn atseinio ledled y byd. 

Mae’r rhaglen ddogfen Tsunami 2005: One Night in Cardiff yn adrodd hanes cyffrous creu’r cyngerdd drwy ffilmiau archifol a chyfweliadau gyda pherfformwyr a threfnwyr, gan gynnwys Jools Holland, Feeder, Goldie Lookin Chain, Craig David, a Katherine Jenkins. Mae’n cael ei chyfeilio gan Tsunami 2005: The Concert, rhaglen awr o uchafbwyntiau gyda pherfformiadau na chawsant eu gweld o’r blaen wedi’u plethu â golwg y tu ôl i’r llenni. 

“Mae’r stori hon yn un sy’n ymgorffori ysbryd gwydnwch a haelioni Cymru. Mae’r ffaith ein bod wedi llwyddo i gynnal cyngerdd elusennol mwyaf y DU ers Live Aid yn dyst i’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd.”
Pablo Janczur

Cynhyrchir y raglen Tsunami 2005 gan Orchard ar gyfer BBC Cymru Wales. Y cynhyrchydd gweithredol yw Adrian Jones (Skin Deep, Pizza Boys), gyda Daisy Brown (Slammed) yn cyfarwyddo, Jack Carey yn cynhyrchu, a Phil Chappell yn gyfarwyddwr ffotograffiaeth.Am 14 mlynedd, mae Orchard wedi darparu ystod o wasanaethau cyfathrebu creadigol i gleientiaid yng Nghymru ac ar draws y byd, o Lywodraeth Cymru i Gymdeithas Adeiladu’r Principality, Aston Martin ac Airways Qatar i Nando’s, yr AA, a Netflix. Mae’r asiantaeth yn creu digwyddiadau corfforaethol a chyhoeddus ar gyfer NATO, UEFA, a Johnson & Johnson; yn cynhyrchu cynnwys ffilm ar gyfer Croeso Cymru, rhaglenni teledu ar gyfer BBC, S4C, Channel 4, a National Geographic; ac yn cynghori ar nawdd a phartneriaethau ar gyfer cyrff fel RFU, Siambrau Masnach Ryngwladol, ac Orbex. 

Yn ddiweddar, mae perchnogaeth y busnes bellach wedi’i throsglwyddo i 65 o weithwyr Orchard, gydag ymddiriedolaeth a berchnogir gan weithwyr yn berchen ac yn rheoli’r cwmni – y busnes Cymreig diweddaraf i ddilyn y llwybr corfforaethol poblogaidd hwn. 

Mae Orchard yn asiantaeth RAR+ Top 100, enillydd gwobrau Drum a Drum Recommends, ac wedi cael ei chynnwys ymhlith Drum Top Independent Agencies. Yn 2023, cipiodd ymgyrch aml-lwyfan, amlieithog integredig Orchard ‘Cymru i’r Byd, Wales to the World’ yn hyrwyddo ymddangosiad y genedl yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 y Grand Prix mawreddog a Gwobr Cyfryngau Byd Teithio a Thwristiaeth. 

Edrych am ymgyrch traws-sianel?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd