Mae Orchard bellach yn Eiddo i’r Gweithwyr
O heddiw ymlaen, mae’r asiantaeth gyfathrebu Orchard yn swyddogol yn eiddo i’w thîm ar ôl i’r cwmni sefydlu Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr (PgW), gan ymuno ag ychydig o arloeswyr Cymreig sy’n dilyn brandiau adnabyddus fel John Lewis Partnership, Aardman a Riverford.
14 mlynedd ar ôl torri ymlaen i’r sîn asiantaeth, mae Orchard, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, bellach yn nwylo ei dîm talentog mewn symudiad a fydd yn diogelu annibyniaeth y cwmni gwerth £15m.
Gyda’r sylfaenwyr gwreiddiol yn symud ymlaen, mae perchnogaeth y busnes wedi cael ei throsglwyddo i staff Orchard, gyda’r ymddiriedolaeth sy’n eiddo i weithwyr bellach yn berchen ac yn rheoli’r cwmni, gan ei wneud yn fusnes Cymreig diweddaraf i ddilyn y llwybr corfforaethol cynyddol boblogaidd hwn.
“O heddiw ymlaen, mae pob aelod o’r tîm yn rhan o ymddiriedolaeth sy’n berchen ar Orchard. Fel ymddiriedolwyr, mae pob un ohonom wedi cael ein grymuso, ac mae gennym fuddiant personol i sicrhau llwyddiant wrth weithio gyda’n cleientiaid mewn ffordd sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr. Mae ymateb y tîm wedi bod yn aruthrol, mae yna ysbryd cymunedol gwych yma, ac rydym i gyd yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol”
Mae PgW yn dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o gadw perchnogaeth gorfforaethol o fewn y wlad wreiddiol, yn yr achos hwn Cymru, i sicrhau swyddi ac i ddarparu mwy o gyfleoedd i dalent ddatblygu eu gyrfaoedd yma.
Bu ailstrwythuro diweddar hefyd yn nhîm arweinyddiaeth uwch Orchard, gyda Jim Carpenter a Kerry McDonald yn cymryd yr awenau fel Cyd-Brif Weithredwyr, a Phil Morgan yn ymuno fel Prif Swyddog Cyllid ac Ymgyrchoedd.
Mae’r PgW yn trosglwyddo perchnogaeth y cwmni i ymddiriedolaeth, lle bydd yr ymddiriedolwyr, sef ffigurau uwch o fewn Orchard a chyfarwyddwyr annibynnol, yn gofalu am fuddiannau’r holl weithwyr. Bydd cyfranddalwyr presennol yn cael eu had-dalu yn unol ag amserlen taliadau y cytunwyd arni. Bydd cyfran o’r elw cynyddol yn y dyfodol ar gael i’w ddosbarthu i’r ymddiriedolwyr yn unol â goruchwyliaeth yr ymddiriedolaeth. Nid oes unrhyw gost na rhwymedigaeth i weithwyr unigol, ond mae cymhelliant gwych yn ei le i sicrhau bod y busnes yn parhau i ffynnu.
Rydym yn ddiolchgar i Andrew Evans yn Geldards, Paul Cantrill, Cynghorydd Corfforaethol gyda Cwmpas, Azets a Specialist Accounting Solutions am eu gwybodaeth YPC arbenigol a’u cefnogaeth amhrisiadwy.
“Sefydlodd sylfaenwyr Orchard, Al Wilson, Matt Wordley a Pablo Janczur, sylfeini gwych ar gyfer y cwmni, ac rydym wedi cyflawni cymaint mewn amser byr. Nawr bydd y model PgW yn talu’n ôl am waith caled ac ymrwymiad y tîm yma ac yn rhoi cyfle i bob un ohonom yrru ein cyfeiriad strategol. Mae’r ethos y tu ôl i PgW yn cy.d-fynd yn dda â’r gwerthoedd rydym wedi’u meithrin yn y cwmni, ac mae’r tîm hwn yn y sefyllfa orau i elwa o’i lwyddiant yn y dyfodol.”