Tafwyl – dod â digwyddiad byw i’ch sgrin deledu

Mae Tafwyl yn un o ddathliadau mwya’r wlad o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg. Ond beth mae darlledu’r digwyddiad ar y teledu ledled Cymru yn gofyn amdano?

Mae Orchard yn gweithio gyda Menter Caerdydd ac S4C ers bron i ddeng mlynedd yn ffilmio’r ŵyl ar gyfer darllediadau teledu ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Fe fuon ni’n siarad â Nia Talfryn Walters, Pennaeth Cynnwys Orchard, i ddeall beth mae gallu rhannu’r digwyddiad byw deuddydd yma gyda phawb yng Nghymru yn gofyn amdano.

“Eleni, mae Tafwyl yn dathlu ugain mlwyddiant, felly mae’n beth mawr, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol. Mae’n wych ein bod ni’n cefnogi cerddoriaeth fyw yn y ddinas.”

“Rydyn ni’n cynhyrchu dwy raglen fyw ar gyfer S4C nos Sadwrn a nos Sul, o wyth tan ddeg. Mae gyda ni dîm gwych o gyflwynwyr – y cyflwynydd radio Huw Stephens a’r artistiaid cerddoriaeth Tara Bethan a Lloyd Lewis.”

“Bydd awr gynta’r rhaglenni yn dangos uchafbwyntiau’r dydd – perfformiadau byw o ddau o’r llwyfannau, y prif lwyfan a llwyfan yr ardd, a sgyrsiau gydag artistiaid, wedyn bydd ail awr pob rhaglen yn dangos y prif berfformwyr yn cael eu ffrydio ar-lein ac yn fyw ar S4C.”

“Nos Sadwrn mae’r band poblogaidd Candelas, wedyn nos Sul mae dathliad pen-blwydd 20 oed Tafwyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Caerdydd – caneuon wedi’u hysbrydoli gan Gaerdydd neu wedi’u hysgrifennu yng Nghaerdydd – mae’n ddathliad go iawn o’r doniau a’r gerddoriaeth wych sydd wedi dod allan o’r ddinas.”

Felly beth mae gallu dod â Tafwyl i’r teledu yn gofyn amdano?

“Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ers rhai misoedd ac fe fydd 100 o bobl yn gweithio ar hyn gan gynnwys ein tîm ni yn Orchard.”

“Byddwn ni’n cynnwys perfformiadau o’r prif lwyfan a llwyfan yr ardd. Mae yna berfformiad arall yn y castell nos Wener cyn Tafwyl, felly byddwn ni’n mynd i mewn am 1am fore dydd Sadwrn.”

“Bydd gyda ni ddwy uned darlledu allanol, un i bob llwyfan, felly bydd yna nifer o bobl camera, gweithredwyr sain, golygyddion, pobl goleuo, rigwyr, y tîm graffeg byw, cwmni yn gofalu am iechyd a diogelwch, a chydlynydd cyswllt ar gyfer yr artistiaid.”

“Mae gyda ni dîm hefyd yn cipio cynnwys drwy’r dydd y byddwn ni’n ei roi ar YouTube ac i gymryd cyfrifon Instagram drosodd.”

Beth yw’r heriau mwyaf?

“Graddfa’r peth. Yr heriau ymarferol a dweud y gwir, mae angen rhoi’r ddau sganiwr ar waith gan eu bod nhw’n dechrau recordio’r ddau lwyfan unwaith mae pethau’n cychwyn.”

“Weithiau mae bandiau’n newid eu rhestr caneuon. Felly mae gyda ni gydlynydd cyswllt ar gyfer yr artistiaid ar y diwrnod sy’n mynd at bob band cyn iddyn nhw berfformio i wirio unwaith eto bod eu rhestr caneuon nhw ddim wedi newid. Rydyn ni’n rhoi capsiynau pennawd ar ganeuon yn fyw, felly mae angen i hynna fod yn gywir.”

“A weithiau dydy’r llwyfannau ddim yn rhedeg ar amser chwaith. Felly mae sgil-effeithiau pethau fel ‘na – bandiau’n cyrraedd yn hwyr os ydyn nhw wedi gorfod teithio’n bell ac wedi gorfod gohirio profi’r sain. Ond mae’n ddigwyddiad byw ac mae angen i ni fod yn hyblyg pan fydd pethau annisgwyl yn digwydd.”

“Mae gyda ni sawl criw yn ffilmio cyfweliadau o gwmpas yr ŵyl. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y ffilm yn ôl i gael ei olygu’n gyflym, ond mae miloedd o bobl i gerdded drwyddyn nhw ac wedyn mae angen iddyn nhw fynd i ffilmio ar y llwyfan neu mewn rhan arall o’r ŵyl. Mae’n eithaf dwys drwy’r dydd a’r nos, a dweud y gwir.”

Mae’n brosiect cymhleth iawn, ond beth sy’n dy gymell di?

“Mae’n enfawr, ond rydyn ni eisiau sicrhau ein bod ni’n rhoi’r cyfle gorau i artistiaid, rydyn ni wir yn malio am hynny. Mae’n fwy na dewis unrhyw gân a’i rhoi hi ar y teledu. Rydyn ni’n gwrando arni ac yn sicrhau ein bod ni’n credu ei bod hi’n swnio ac yn edrych yn dda. Mae’n beth enfawr i’r gweithredwyr sain. Maen nhw’n cymysgu drwy’r dydd o tua hanner dydd tan ddeg y nos ar y llwyfannau.”

“Mae’r un peth yn wir am y bandiau – chwarae yn yr ŵyl i’r gynulleidfa fyw yw’r flaenoriaeth. Yn amlwg rydyn ni eisiau cipio’r cynnwys gorau gallwn ni ar gyfer y rhaglen hefyd. Ond rydyn ni’n deall ei bod hi’n beth mawr gwneud y math yma o beth, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny.”

Menter Caerdydd sy’n trefnu Tafwyl, fydd yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 20 a 21 Mehefin. Cafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2006, ac mae wedi tyfu o fod yn ddigwyddiad cymunedol i fod yn ŵyl ddinesig fawr sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ei nod yw hyrwyddo’r Gymraeg drwy gerddoriaeth, celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol.

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd