Amdanom Ni
Orchard ydym ni. Asiantaeth farchnata integredig arobryn, amlddisgyblaethol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Rydym yn hyrwyddo meddwl yn strategol, datrysiadau creadigol, ac effaith fasnachol.
Eiddo i’r Gweithwyr
Mae Orchard bellach yn Eiddo i’r Gweithwyr. O fis Hydref 2024, rydym ni i gyd yn aelodau cyfartal o ymddiriedolaeth sy’n berchen ar Orchard. Fel ymddiriedolwyr, rydym ni i gyd yn rhannu ymrwymiad mewn gwneud llwyddiant o weithio gyda chi, mewn ffordd fuddiol i’r ddwy ochr. Darllenwch fwy yma.
Ein Gwasanaethau
- Creadigol
- Arloesi Digidol
- Cynnwys
- Digwyddiadau a Phrofiadau
- Cyfathrebu
- Nawdd a Phartneriaethau
Ein Dull o Weithredu
Mae pob prosiect neu her sy’n dod drwy ein drysau yn mynd drwy ein proses dechnegol fanwl gywir sy’n ein galluogi i ddarparu datrysiadau pwrpasol, meddwl yn hyblyg, a llwyddiant mesuradwy.
Y cam cyntaf yw sgwrs i ddarganfod beth yw’r her y mae angen i ni ei datrys. Gallai hynny olygu gweithdai, sesiynau syniadau, neu fapiau meddwl er mwyn llunio briff manwl.
Yn y cam hwn rydym yn casglu’r arbenigwyr gorau o’n tîm i feddwl am syniadau a datrysiadau creadigol. Rydym yn edrych ar y briff, yn mireinio’r cysyniadau, ac yn creu cynllun ar gyfer sut rydym yn mynd i ddatrys yr her.
Pan fydd y syniad wedi’i fireinio a’i gytuno, rydym yn gweithio ar greu’r gweithredu, y cynnwys, y creadigol, neu’r elfennau y gellir eu cyflawni ar gyfer yr ymgyrch – ar amser, gan gadw at y briff ac o fewn y gyllideb.