Blog
Integredig
9 Rheswm dros Ddewis Asiantaeth Farchnata Integredig
Nawr yn fwy nag erioed, mae sefydliadau sy’n chwilio am gymorth marchnata a chyfathrebu yn wynebu amrywiaeth ddryslyd o fodelau asiantaeth.
Pan fydd pwysau i gynhyrchu canlyniadau, gwneud arian neu gyflawni unrhyw amcanion busnes, gall fod yn anodd dewis y partner neu bartneriaid cywir ar gyfer eich prosiect. Mae hynny nid yn unig yn golygu’r wybodaeth gywir, a’r sgiliau cywir, ond y raddfa a’r strwythur cywir hefyd.
Nod y blog hwn yw eich helpu i ddatrys y dryswch, a bydd yn amlinellu pryd byddai’n well dewis asiantaeth farchnata integredig neu efallai amrywiad ar y thema honno. Yn y bôn, pan fydd gennych chi broblem gymhleth, mae arnoch angen ateb syml ac, yn aml, asiantaethau integredig sydd yn y sefyllfa orau i ddyfeisio a chyflwyno’r ymgyrchoedd marchnata integredig hynny.
Beth yw Asiantaeth Farchnata Integredig?
Er na chewch gonsensws llwyr ar hyn efallai, yn hytrach nag un darparwr gwasanaeth (a elwir yn aml yn asiantaeth farchnata bwtîc), mae asiantaethau marchnata integredig yn cynnig gwasanaethau marchnata lluosog ac ategol.
Yn cynnig sawl datrysiad marchnata o dan yr un to yn aml, nid yw faint sydd arnoch eu hangen i fod yn gymwys yn wyddoniaeth fanwl gywir ond, yn gyffredinol, gorau po fwyaf, oherwydd byddwch chi’n cael mwy o siop un stop.Yn ein hachos ni, mae meysydd gwasanaeth marchnata lluosog yn cyfuno i ffurfio sawl maes datrysiad, pob un yn defnyddio timau mewnol:
Strategaeth – o wybodaeth ac ymchwil marchnad i strategaeth farchnata neu gynllun ymgyrchu y gellir eu gweithredu.
Creadigol – o hunaniaeth brand i ddylunio hysbysebion, dylunio graffeg, marchnata ar e-bost, tudalennau glanio, dylunio gwefan, ymgyrchoedd digidol ac ati. Cael eich neges brand yn fanwl gywir.
Cynnwys – o ysgrifennu testun i bob fformat o gynnwys sgrin ar gyfer pob sianel farchnata gan gynnal neges gyson.
Communications – Cyfathrebu – pob agwedd ar gynllunio a phrynu cyfryngau ynghyd â disgyblaethau cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol. O farchnata traddodiadol fel hysbysebu print i farchnata digidol, mae’r tîm yn defnyddio gwahanol sianeli i dargedu anghenion cynulleidfaoedd.
Gweithredu digwyddiadau – o gynadleddau diwydiant corfforaethol a digwyddiadau ac arddangosfeydd hybrid i sioeau teithiol arbrofol (mae hyn yn fwy anarferol i’w ganfod o dan yr un to).

