Blog Integredig

9 Rheswm dros Ddewis Asiantaeth Farchnata Integredig

Nawr yn fwy nag erioed, mae sefydliadau sy’n chwilio am gymorth marchnata a chyfathrebu yn wynebu amrywiaeth ddryslyd o fodelau asiantaeth.

Pan fydd pwysau i gynhyrchu canlyniadau, gwneud arian neu gyflawni unrhyw amcanion busnes, gall fod yn anodd dewis y partner neu bartneriaid cywir ar gyfer eich prosiect. Mae hynny nid yn unig yn golygu’r wybodaeth gywir, a’r sgiliau cywir, ond y raddfa a’r strwythur cywir hefyd.

Nod y blog hwn yw eich helpu i ddatrys y dryswch, a bydd yn amlinellu pryd byddai’n well dewis asiantaeth farchnata integredig neu efallai amrywiad ar y thema honno. Yn y bôn, pan fydd gennych chi broblem gymhleth, mae arnoch angen ateb syml ac, yn aml, asiantaethau integredig sydd yn y sefyllfa orau i ddyfeisio a chyflwyno’r ymgyrchoedd marchnata integredig hynny.

Beth yw Asiantaeth Farchnata Integredig?

Er na chewch gonsensws llwyr ar hyn efallai, yn hytrach nag un darparwr gwasanaeth (a elwir yn aml yn asiantaeth farchnata bwtîc), mae asiantaethau marchnata integredig yn cynnig gwasanaethau marchnata lluosog ac ategol.

Yn cynnig sawl datrysiad marchnata o dan yr un to yn aml, nid yw faint sydd arnoch eu hangen i fod yn gymwys yn wyddoniaeth fanwl gywir ond, yn gyffredinol, gorau po fwyaf, oherwydd byddwch chi’n cael mwy o siop un stop.Yn ein hachos ni, mae meysydd gwasanaeth marchnata lluosog yn cyfuno i ffurfio sawl maes datrysiad, pob un yn defnyddio timau mewnol:

Strategaeth – o wybodaeth ac ymchwil marchnad i strategaeth farchnata neu gynllun ymgyrchu y gellir eu gweithredu.

Creadigol – o hunaniaeth brand i ddylunio hysbysebion, dylunio graffeg, marchnata ar e-bost, tudalennau glanio, dylunio gwefan, ymgyrchoedd digidol ac ati. Cael eich neges brand yn fanwl gywir.

Cynnwys – o ysgrifennu testun i bob fformat o gynnwys sgrin ar gyfer pob sianel farchnata gan gynnal neges gyson.

Communications – Cyfathrebu – pob agwedd ar gynllunio a phrynu cyfryngau ynghyd â disgyblaethau cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol. O farchnata traddodiadol fel hysbysebu print i farchnata digidol, mae’r tîm yn defnyddio gwahanol sianeli i dargedu anghenion cynulleidfaoedd.

Gweithredu digwyddiadau – o gynadleddau diwydiant corfforaethol a digwyddiadau ac arddangosfeydd hybrid i sioeau teithiol arbrofol (mae hyn yn fwy anarferol i’w ganfod o dan yr un to).

Two members of team Orchard working collaboratively on an integrated project.
Two people having a meeting in a booth. One person is pointing at a screen with a 3d model showing.

Pam Dewis Asiantaeth Farchnata Integredig?

Mae llawer o resymau cadarn, a dyma bump o’r prif resymau:

1.Persbectif

Mae asiantaethau marchnata integredig yn gymharol agnostig o ran pa elfennau sydd eu hangen i ddarparu’r ateb gorau ar gyfer unrhyw sefyllfa benodol.
Os oes gennych chi’r holl adnoddau sydd ar gael i chi, nid ydych yn gyfyngedig i gynnig y rhai sydd gennych yn unig. Wrth wynebu chwilio am wasanaethau y tu allan i faes arbenigedd asiantaeth, gallant ymddangos ar gam yn ‘rhy anodd, rhy ddrud neu rhy galed’!

2.Meddwl unedig

Pan mae gennych chi dîm mewnol mwy yn cydweithio ar ymgyrchoedd marchnata integredig, byddech chi’n disgwyl i bawb fod ar yr un donfedd. Gyda llai o bartneriaid asiantaeth mae llai o agweddau a all greu dryswch.

3.Perchnogaeth o brosiectau

Yn debyg i’r pwynt diwethaf, byddai llawer o asiantaethau marchnata integredig yn neilltuo uwch arweinydd prosiect i gydlynu holl wahanol ymdrechion marchnata unrhyw ymgyrch, a dylai hyn ddileu unrhyw dir llwyd lle gallai un asiantaeth gamgymryd bod asiantaeth arall yn gyfrifol am agwedd benodol. Hefyd dylai asiantaeth farchnata integredig fod â mwy o berchnogaeth ar amcanion busnes cyffredinol, fel rhan o ymgyrch farchnata integredig.

4.Effeithlonrwydd a phris

Gydag un asiantaeth farchnata integredig yn darparu agweddau niferus ar eich marchnata a’ch cyfathrebu yn fewnol, mae llai o gyfleoedd i gynyddu prisiau sawl gwaith. Erbyn i wasanaeth gael ei ddyfarnu ar gontract allanol drwy gyfryngwyr, efallai y bydd 3 neu 4 haen o ‘elw’ yn cael eu hychwanegu at eich anfoneb!

5.Graddfa

Yn gyffredinol, mae asiantaethau marchnata integredig, o reidrwydd, yn sefydliadau mwy gyda’r lefel aeddfedrwydd a sefydlogrwydd a ddaw gyda hynny. Er enghraifft, rydym yn bodoli ers dros 11 mlynedd gyda mwy na 50 o staff. Yn aml gyda hynny mae’r asiantaethau marchnata integredig hyn wedi’u hachredu hefyd ac yn perthyn i sefydliadau fel yr IPA (Sefydliad yr Ymarferwyr Hysbysebu).

Oes unrhyw wendidau neu anfanteision?

Y gwendid amlycaf fyddai pe bai gan yr asiantaeth farchnata integredig wendid cudd ochr yn ochr â meysydd cryfder.

Mae’r paradocs ‘Sioni pob crefft’ yn bodoli wrth gwrs – po fwyaf o bethau rydych chi’n eu gwneud, y lleiaf effeithiol ydych chi’n cael eich gweld am eu gwneud. Fodd bynnag, nid oes rhaid i hyn fod yn wir. Mae’n werth sefydlu a yw’r asiantaeth farchnata integredig wir yn gadarn ar draws yr holl elfennau ar eu pen eu hunain.

Weithiau mae arbenigwyr bwtîc fel asiantaeth cyfryngau cymdeithasol gadarn yn gallu cynnig darpariaeth arbenigol iawn. Fodd bynnag, wrth ymdrin ag asiantaethau sy’n pysgota mewn pwll bach, y cwestiwn yw pryd mae darpariaeth arbenigol neu gynefindra sector yn dod yn wrthdaro buddiannau?

Byddwch yn wyliadwrus o labeli a datganiadau. Mae rhai asiantaethau yn dweud ‘rydym yn gwneud hyn’ braidd yn rhyddfrydol. Os nad ydych yn ofalus, gallwch yn ddiarwybod gael llawer mwy o gyflenwyr o dan faner asiantaeth farchnata sydd i fod yn un integredig. Mae cydweithredu yn iawn cyn belled â bod tryloywder a datgelu llawn.

Gall defnyddio llu o weithwyr llawrydd ymddangos yn rhatach, ond pan gaiff ei alw’n ‘ymgynghoriaeth’ – efallai na fydd hynny’n wir! Gall help gweithwyr llawrydd fod yn ddefnyddiol ar gyfer prosiectau tactegol a thymor byr, ond gall eu rheoli dros amser a’u cael i gydlynu ofyn am lawer o sgiliau ac amser rheoli.

Beth ddylech chi chwilio amdano yn eich Asiantaeth Marchnata Integredig ddelfrydol?

1.Integreiddio

Efallai bod hyn yn swnio’n weddol amlwg ond mae gallu timau mewnol amrywiol i gydweithio’n ddi-dor yn bwysig. Gall fod tueddiad i dimau ffurfio meddylfryd unigol, ond rhaid gweithio yn erbyn hyn gyda phroses dda, diwylliant cydweithredol, a nodau a rennir.

Mae angen asiantaeth integredig ar strategaeth farchnata integredig.

2.Achrediad

Heb fod yn gyfyngedig o reidrwydd i asiantaethau marchnata integredig, mae aelodaeth o gyrff a chymdeithasau masnach bob amser ar y rhestr dicio. Chwiliwch am un o’r 278 o asiantaethau sy’n aelodau o’r IPA.

Sefydliad yr Ymarferwyr Hysbysebu, a ymgorfforwyd gan Siarter Frenhinol, yw’r corff masnach a’r sefydliad proffesiynol ar gyfer asiantaethau ac unigolion sy’n gweithio yn niwydiant hysbysebu, cyfryngau a chyfathrebu marchnata’r DU.

3.Cydweithredu

Ychydig iawn o asiantaethau sy’n gallu cyflwyno popeth yn fewnol, ac felly byddant yn ffurfio partneriaeth ag asiantaethau o’r un anian i gyflawni prosiect. Yn aml, bydd yn fuddiol cael help arbenigol ar gyfer rhai agweddau ar brosiect, er enghraifft, gwasanaethau cyfieithu.

Yr hyn sy’n allweddol yma yw eich bod chi’n gwybod pryd a pham mae hyn yn digwydd, ochr yn ochr â phwy sy’n fewnol yn erbyn pwy sy’n allanol. Byddwch yn gallu teimlo’n gyfforddus a lleihau unrhyw risg drwy ymddiried mewn cydweithrediadau asiantaeth a oedd yn bodoli eisoes a’u rhwydweithiau ‘parod’ sy’n seiliedig ar lwyddiant blaenorol.

4.Cemeg

Fel gyda phob perthynas waith hirdymor bleserus a ffrwythlon ar gyfer asiantaeth/cleient, mae’n rhaid cael cemeg da. Mae’n rhaid i chi berfformio fel un uned, ac mae perthnasoedd cadarnach yn eich tywys drwy’r amseroedd anodd yn well.

Yn ddelfrydol, dylid cael synergedd tîm da sy’n cyd-fynd ag arbenigedd asiantaeth ac ochr y cleient, profiad yn ogystal â meddylfryd.

Astudiaeth Achos ar gyfer Croeso Cymru

Pan oedd Llywodraeth Cymru yn caffael ar gyfer y meysydd twristiaeth hynod bwysig drwy Croeso Cymru, datblygu busnes a mewnfuddsoddi drwy Masnach a Buddsoddi Cymru, a brand gwlad – roedd rhaid iddi gael y cymysgedd gorau o asiantaethau marchnata.

Gofyniad y contract cynhyrchu a dosbarthu cynnwys oedd dod o hyd i asiantaeth farchnata arweiniol gyda gwir rinweddau asiantaeth farchnata integredig, ond hefyd y gallu a’r hyblygrwydd i gaffael gwasanaethau eraill mewn model cydweithredol o dan reolaeth yr asiantaeth integredig arweiniol.

Yr ateb oedd ein penodi ni fel partner arweiniol Cydweithfa C/O Cymru. Fe wnaethom greu tîm cleientiaid mewnol sy’n cynnwys rheolaeth gadarn ar y prosiect o dan yr un to a mynediad i ystod eang o feysydd datrysiadau marchnata integredig.

Mae’r partneriaid asiantaeth allweddol eraill yn cwmpasu cysylltiadau cyhoeddus arbenigol a rhyngwladol, yn ogystal ag arbenigwr marchnata digidol. Yn ogystal â hyn, mae ymgynghorwyr strategol a chreadigol unigol yn cael eu cynnwys yn y cymysgedd, ond gyda’r ddarpariaeth yn cael ei rheoli’n gyson bob amser gan yr asiantaeth arweiniol.

Mae’r model hwn wedi bod yn hynod effeithiol, gyda’r cleient yn gallu cael mynediad at y gorau o bob byd o ran cynhyrchu a dosbarthu cynnwys, ochr yn ochr â’r apêl o ddelio drwy un porth briffio a chaffael.

Crynodeb

Y dystiolaeth, os oes ei hangen, o blaid y dull gwasanaeth integredig o weithredu, yw bod cymaint o asiantaethau sy’n dechrau fel bwtîc ar eu pen eu hunain yn aml yn ehangu i’r model hwn. Mewn gwirionedd, mae llawer yn gweld bod yr esblygiad naturiol hwn yn digwydd o ganlyniad i ofynion cleientiaid a rhwystredigaeth o fethu â chyflawni’n fewnol.

Weithiau gall asiantaeth ddarparu’r cyfan, ond mewn gwirionedd, efallai mai’r hyn a gewch chi yn y pen draw fydd model hybrid gydag asiantaeth farchnata integredig arweiniol fwy wedi’i hategu gan naill ai weithiwr llawrydd arbenigol neu gymorth asiantaeth lai (a reolir yn ddelfrydol gan yr asiantaeth integredig). Nid oes rheolau pendant yn y gêm hon, ac ni fydd un patrwm yn addas i bob sefydliad, heb sôn am bob math o brosiectau.

Fodd bynnag, os oes arnoch angen datrysiadau symlach i’ch problemau cymhleth, byddai dewis yr asiantaeth farchnata integredig gywir yn ddechrau gwych.

Eisiau cael gwybod mwy am sut gall asiantaeth farchnata integredig eich helpu chi? Cysylltwch.

Eisiau gweithio gyda ni?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd