Blog Blog

Creu hanes a thorri record – pam fod y foment yma’n fuddugoliaeth i chwaraeon merched yng Nghymru

Sut y gall brandiau gymryd ysbrydoliaeth gan y gêm sy’n tyfu gyflymaf. Mae ein Pennaeth Ymgyrchoedd, Jess yn esbonio…

Ydyn ni dros hyn eto? Yn fyr – na. Rydym ni wedi gwirioni ar chwaraeon yn Orchard ac felly roedd colled dorcalonnus merched Cymru yn erbyn y Swistir yn brifo. Ond dydi pethau ddim wir yn gorffen ar ôl noson o’r blaen, dim ond megis dechrau.

Dydi cefnogi gêm y merched ddim yn newydd i ni ac yn sicr nid ydym  neidio ar y ‘lori lwyddiant’. Buom yn falch o noddi Uwch Gynghrair Merched Cymru ac rydym wrth ein bodd yn gweithio i gefnogi chwaraeon merched – nid yn unig pêl-droed, ond hefyd ar draws platfform aml-chwaraeon fel Gemau’r Gymanwlad gyda Thîm Cymru. Mae’n allweddol bod y campau hyn yn weledol ac rydym yn chwarae rhan helaeth i helpu ein cleientiaid i gael eu gweld a’u clywed.

Felly er ein bod yn rhannu siom y chwaraewyr neithiwr, rydym am ddathlu ein heiconau pêl-droed merched a manteisio ar y cyfle i ddweud diolch. Mae’r ymgyrchoedd a’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni nid unig ba mor bwysig ydi bod yn weledol, ac mai dyna’r gwahaniaeth rhwng y gorffennol a’r dyfodol, ond hefyd y cyfleoedd masnachol gwirioneddol y mae chwaraeon merched yn cynnig i frandiau. Ac mae hynny’n gyffrous ar ac oddi ar y cae…

1.  Gwerthiant tocynnau sy’n torri record

Dros 15,000 yn cael eu gwerthu. Pobl yn teithio o bob rhan o’r wlad i weld merched Cymru’n ymladd yn erbyn Bosnia. Mae’r niferoedd hyn yn cynyddu ar gyfradd syfrdanol a phetawn ni’n gallu rhagweld y dyfodol, mae’n edrych fel bydd pethau’n parhau i fynd i’r cyfeiriad yma am amser hir.

Felly fel brand, pam fod hyn yn bwysig? Bellach mae gennych chi fwy o gyfleoedd i gyrraedd dros hanner poblogaeth Cymru’n uniongyrchol. Efallai bod hynny trwy fanteisio ar gyfleoedd hysbysebu neu niferoedd ymwelwyr. Efallai bod hynny drwy gydlynu eich marchnata a’ch negeseuon gyda rhestr y gemau. A gan ei fod yn parhau i dyfu mae’r cyfleoedd fel arfer yn fwy hygyrch, gan olygu y gall mwy o frandiau fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o hyn.

2. Cyrraedd cynulleidfa bresennol yn ogystal â chynulleidfa newydd

Y gwendid amlycaf fyddai pe bai gan yr asiantaeth farchnata integredig wendid cudd ochr yn ochr â meysydd cryfder.

Mae ymchwil yn dangos hyd yn hyn, fod y nifer o bobl sy’n gwylio chwaraeon merched ar y sgrin eleni yn fwy nag erioed – ac wrth i’r galw barhau i dyfu, mae darlledwyr yn ymrwymo i ddarlledu mwy. Yn ddiddorol, nid cynulleidfa ‘newydd’ yn unig yw’r math o wyliwr, hynny ydi, cynulleidfa nad oedd modd ei gyrraedd cynt drwy raglenni chwaraeon. Mae gwylwyr presennol hefyd yn troi at chwaraeon merched, un o bob tri ar gyfartaledd.

Nid merched yn cefnogi merched yn unig yw hyn – mae hyn yn ymwneud â gêm sy’n ffrwydro gyda chynulleidfa frwd i gyd-fynd â hi. Mwy o lygaid a mwy o gyfleoedd i gyfleu’ch neges. Cyfle cyffrous tu hwnt i frandiau!

3. Storïau perthnasol sy’n para

Nid yw’n gyfrinach mai stori ddynol, bersonol sy’n gwerthu yn y diwedd. Faint ohonom sydd wir yn gallu uniaethu gyda ffordd o fyw’r rhai sydd gan filiynau o bunnoedd? Mae gêm y dynion yn amlach na pheidio yn mynd ar goll mewn arwyddion punt. Gobeithio’n wir mai dyna fydd hanes gêm y merched cyn bo hir… ond am y tro rydym yn cydnabod cryfder ac effaith eu straeon go iawn. Wrth gwrs, dyma ran o’r rheswm pam fod eu hymgyrch mor llwyddiannus. Fel merch (gymharol!) ifanc – dwi’n gallu gweld fy hun. Dwi’n gallu gweld yr heriau a (nawr) y cyfleoedd. Allwn ni ddim di-ystyru’r effaith mae eu straeon yn cael ar ysbrydoli a siapio cenedlaethau’r dyfodol, gan greu nid yn unig y sêr pêl-droed nesaf, ond hefyd y cyflwynwyr teledu, gweithredwyr camera, technegwyr sain, ac yn y pen draw, ein harweinwyr nesaf. Gallwch fod yn rhan o hyn neu bydd posib cael eich gadael ar ôl…

Wrth gwrs, mae cymaint mwy o resymau dros gefnogi’r gêm ac yn bwnc yn gallwn drafod am oriau. Ond er mwyn arbed eich amser, rydym bob amser yn barod am sgwrs wyneb yn wyneb i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i chi ddyrchafu eich ymgyrch ac i gael sylw i’ch brand.

Credyd lluniau: Kunjan Malde/FAW

Ffynonellau yn cynnwys:

https://www.skysports.com/football/news/11095/12605508/record-viewing-figures-for-womens-sport-in-first-three-months-of-2022-as-over-15m-tune-in

Yn gyffredinol, roedd 1,586,600 o fenywod (51.1% o’r boblogaeth gyfan) a 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru yn 2021.

https://www.bbc.co.uk/sport/live/football/63196091

Eisiau gweithio gyda ni?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd