Gwobrau

Sut yr aethom ati i greu ymgyrch byd-eang oedd yn mynd â Chymru o’n Bro i’r Byd, a chipio sawl gwobr ar y ffordd

Ym mis Tachwedd 2022, hedfanodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i Qatar i gystadlu yn ffeinal Cwpan y Byd FIFA. Dyma’r tro cyntaf ers 64 mlynedd i Gymru fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon mwya’r byd.

Gyda chynulleidfa fyd-eang o 5 biliwn o bobl, roedd yma gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru arddangos ein gwlad i’r byd, a chreu gwaddol. A dyma ble rydym ni’n ymuno â’r stori, yn Asiantaeth Cynnwys a Dosbarthu ar gyfer Brand Cymru. Dyma ein cyfle i greu rhywbeth arbennig. Ein cyfle i fynd â Chymru i’r Byd.

Gan gyd-weithio ac ystod o arbenigwyr a bron i ddau ddwsin o bartneriaid, buom yn gweithio’n agos â’r cwsmer i ddod a’r ymgyrch yn fyw.

Ein bwriad oedd cyflwyno Cymru – gwlad nad oed llawer un wedi clywed amdani o’r blaen – am y tro cyntaf; i ail-gysylltu â’r Cymry ar wasgar; ac ysbrydoli cenedl gyfan adref yng Nghymru.

 Roedd angen i hwn fod yn fwy nac ymgyrch twristiaeth, felly penderfynom roi pobl Cymru wrth galon ein strategaeth. Nhw oedd negeswyr ein gwlad: Roedden nhw’n adrodd ein straeon, yn cefnogi ein polisïau blaengar, yn rhannu ein gwerthoedd, diwylliant a thraddodiadau mewn modd cynnes, diffuant a blaengar.

Roedd ein hymgyrch ddwyieithog yn dangos bod Cymru yn genedl flaengar sydd am ofalu am bobl a’r blaned. Roeddem yn estyn croeso i’r byd, ac yn dangos beth sy’n gwneud Cymru mor arbennig.

Bu Tîm Cymru – cydweithrediad dyfeisgar gyda sefydliadau megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, BBC, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Global Welsh ac Urdd Gobaith Cymru – yn helpu i godi llais straeon Cymru trwy ddiwylliant, digwyddiadau cerddorol a darllediadau.

A’r canlyniad? Ymgyrch oedd yn codi ymwybyddiaeth o’n cenedl a’n gwerthoedd; sylw yn y wasg yn fyd-eang; ac yn sgil hynny wedyn, seiliau cadarn sy’n caniatáu sefydlu perthnasau twristiaeth a masnach cryf ledled y byd.

Dyma sut yr aethom ati…

Canlyniadau Ymgyrch Cymru – O’n Bro i’r Byd

Digidol 

  • Canran llais Cymru yn fyd-eang wedi tyfu o 1% i 7% (Adroddiad Effaith Halo)

  • Cynnydd o 40% mewn cyfeiriadau byd-eang

  • 90,141,626 o argraffiadau (+175% yn fwy na’r rhagolwg)

  • 45,882,358 wedi gwylio’r fideo (+204%)

  • 677,999 o ymweliadau i Wales.com (+1,080%)

Cysylltiadau Cyhoeddus 

  • 66 cyfweliad ar ddarllediadau byd-eang gan gynnwys Reuters, Al Jazeera, Washington Post, France24 gan greu 17.9bn o gyfleoedd i weld y cynnwys yn y wasg.

Cafodd yr ymgyrch lwyddiant ysgubol yng Ngwobrau World Media Group yn Llundain wrth gipio gwobr Teithio a Thwristiaeth a phrif wobr y noson, y wobr ‘Grand Prix’, sef y gorau o holl enillwyr y noson.

 

Llongyfarchiadau mawr a diolch i’r tîm yma yn Orchard, y bobl fu’n arwain hyn yn Llywodraeth Cymru, a i’r holl bartneriaid creadigol fu’n gyfrifol am hyn.

Eisiau gweithio gyda ni?

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd