Mae ganddon ni gyfle cyffrous i rywun ymuno â thîm Orchard fel Derbynnydd y Swyddfa.  

Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am gyfarch a chwrdd â’r holl gleientiaid ac ymwelwyr sy’n dod i’n swyddfa yng Nghaerdydd yn ogystal ag ateb pob galwad. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod glendid y swyddfa/mannau cymunedol yn cael ei gynnal, a bod cyflenwadau digonol o luniaeth yn cael eu cadw, ynghyd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol eraill.  

Noder: ar gyfer y swydd hon, bydd gofyn i chi weithio 9 – 3 o ddydd Llun i ddydd Gwener; fodd bynnag, rydyn ni’n fodlon ystyried oriau rhan amser neu hyblyg.  

Byddai rhywun sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn ddymunol yma.

Two members of the Orchard integrated team walking through the studio

Sut i wneud cais

Anfonwch lythyr eglurhaol a CV neu eich portffolio at jointheteam@thinkorchard.com

Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau felly er ein bod yn gwneud ein gorau i gysylltu â phawb, os nad ydych wedi clywed gennym o fewn mis o’ch cais, yn anffodus nid ydych wedi bod yn llwyddiannus.

Ffit y bil? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd