Lansiad llwyddiannus Aston Martin

Penwythnos o ddigwyddiadau

Fel arbenigwyr ym maes rheoli digwyddiadau, ni oedd y dewis cyntaf i Aston Martin pan oeddent eisiau lansio eu ffatri newydd yn Sain Tathan i bobl bwysig a’r gymuned leol. Y nod oedd ymgysylltu a chysylltu â’r gymuned leol, a chreu cysylltiad a pherthynas gadarnhaol barhaus â’r brand. Cawsom her ganddynt i reoli a chyflwyno penwythnos o ddigwyddiadau ar eu safle newydd, a fyddai’n cynnwys digwyddiad trosglwyddo swyddogol a digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd.

Rheoli Digwyddiadau
Rheoli Cynrychiolwyr
Clyw Weledol
Ffotograffiaeth a Ffilmio

Gan ddefnyddio ein rhwydwaith sefydledig o gysylltiadau ac arbenigwyr diwydiant, aethom ati i ddarganfod mwy am ein cynulleidfa, y logisteg a’r metrigau i fesur llwyddiant. Aethom ati i drefnu a rheoli’r digwyddiad deuddydd o’r cysyniad i’r cyflwyno.

A view of a Aston Martin sign inside a hanger with a microphone out of focus and a wing of a plane in the background.

Er mwyn sicrhau bod yr amcan o ymgysylltu lleol yn cael ei gyflawni, gwnaethom ddylunio a rheoli porthol tocynnau pwrpasol i ddosbarthu mwy na 26,000 o wahoddiadau i gynulleidfa leol, gan ein galluogi i dargedu codau post penodol yn yr ardal.

Roedd y digwyddiad trosglwyddo swyddogol undydd yn cynnwys areithiau, teithiau, dosbarthiadau dylunio, rhwydweithio a chyhoeddiad am gefnogaeth Aston Martin i gronfa les ARF. Ac roedd y rhestr o’r gwesteion pwysig yn cynnwys yr Ysgrifennydd Amddiffyn ar y pryd, Michael Fallon, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a mwy na 250 o wasg y byd a rhanddeiliaid lleol.

Iphone 12 with interesting lighting laying on high quality materials. Showing the invite on screen for the event.

Wedyn aethom ati i drawsnewid y lleoliad ar gyfer y diwrnod agored cyhoeddus, gan groesawu miloedd o ymwelwyr a chynnig llu o weithgareddau, 18 o werthwyr bwyd unigryw, dosbarthiadau meistr dylunio, teithiau o amgylch yr awyren drafnidiaeth RAF Hercules ac RAF Red Arrow, ynghyd â’r cyfle i weld mwy na 700 o geir Aston Martin, gan gynnwys ceir enwog James Bond, ceir rasio a cheir cysyniad.

Dark green rectangle showing how many invites were sent for the event.
Dark green rectangle showing how many attendees were on site for the event.

Croesawyd mwy na 18,000 o westeion yn ystod y digwyddiad deuddydd, a arweiniodd at fwy o ymgysylltu, ymwybyddiaeth o’r brand, ymrwymiad rhanddeiliaid, a sylw gan y wasg. Sicrhaodd ein cynllunio slic, ein trefniadau, y rheolaeth a’n profiad ddigwyddiad nodedig a oedd yn cyd-fynd â’r brand Prydeinig moethus, anrhydeddus.

Eisiau cynnal digwyddiad neu brofiad?

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd