Awyr Dywyll

Adrodd ein stori am Gymru

Rydym wedi bod yn brif gontractwr Croeso Cymru, Masnach a Buddsoddi Cymru, a Wales.com ers bron i ddegawd. Rydym wedi creu cannoedd o fideos, erthyglau, strategaethau a gweithrediadau yn ystod yr amser hwnnw gan ddefnyddio ein tîm amlddisgyblaethol.

Yr her hon i Croeso Cymru oedd dod o hyd i ffordd o dynnu sylw at y manteision o ymweld â Chymru yn ystod tymor y gaeaf. Roedd rhaid i ni ofyn i ni’n hunain sut mae arddangos Cymru a chael pobl i ymweld pan mae’n oer a thywyll y tu allan?

Ysgrifennu Sgriptiau
Cynhyrchu
Golygu
Ôl-gynhyrchu

Rydym yn strategwyr profiadol ac aethom ati i edrych yn fanwl ar ba elfennau penodol o’r gaeaf yng Nghymru oedd yn unigryw ac y gallem eu defnyddio i adrodd stori, pa fath o gynnwys a negeseuon y gallai’r gynulleidfa uniaethu â hwy, a sut gallem ddefnyddio ein lleoliad fel ased. Roeddem yn gwybod bod dyhead i dargedu teuluoedd ac anturiaethwyr ifanc a nodwyd nodweddion cyffredin gennym a fyddai’n apelio at y ddwy farchnad.

Alyn Wallace an astral photographer looking over the Elan Valley at dusk with camera in hand.
Alyn Wallace an astral photographer looking at his camera at night with only a head torch for light.

I ni, roedd dilysrwydd yn allweddol wrth adrodd ein stori am Gymru, o’r sgript i’r naws, y synau, y golygfeydd a’r cymeriadau. Roeddem eisiau iddo fod yn ymwneud â synau’r gaeaf – y glaswellt yn crensian dan draed, chwiban y gwynt – cymaint ag adrodd ar lafar. Roeddem eisiau iddo fod yn brofiad synhwyraidd sonig, a dyna pam y gwnaethom ddewis synau’r amgylchedd wedi’u paru â cherddoriaeth.

Daethom o hyd i leoliadau, criw, cast a phobl greadigol a saethu dwy hysbyseb am awyr y nos. Yn y broses ôl-gynhyrchu, aethom ati i adeiladu’r cymysgedd sain ac ychwanegu rhywfaint o gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig i greu profiad fideo amlsynhwyraidd.

Gwyliwyd a phrofwyd ein fideos, ein hysbysebion a’n cynnwys digidol gan filoedd o bobl. Roeddem yn gallu dangos ochr wahanol i Gymru ac adrodd straeon dilys, emosiynol.

Chwilio am ymgyrch aml-sianel?

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd