Addo

Gwna addewid i Gymru

Fel prif wasanaethau cynhyrchu a dosbarthu cynnwys Croeso Cymru a Masnach a Buddsoddi Cymru, rydym yn hyddysg mewn creu ymgyrchoedd cyfathrebu integredig, aml-sianel.

Mae ein Cydweithfa C/O Cymru yn fodel unigryw ar gyfer creadigrwydd, arloesi, cydweithio a dosbarthu. Fel gyda’n holl friffiau, rydym yn defnyddio ein hystod o wasanaethau, o strategaeth greadigol a chynhyrchu ffilmiau i gynllunio a phrynu cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol, a dylunio a gweithredu.

Strategaeth
Cynllunio a Phrynu Cyfryngau
Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau Cymdeithasol

Roedd yn bwysig, drwy’r pandemig, bod pobl yn teimlo’n gysylltiedig ac yn buddsoddi yng Nghymru fel cyrchfan hyd yn oed os na allent ymweld. Ein her oedd annog pobl i fuddsoddi’n emosiynol yng Nghymru er mwyn cynorthwyo’r diwydiant twristiaeth a phortreadu Cymru fel lleoliad delfrydol i sefydlu, datblygu a buddsoddi mewn busnes.

The Addo

Gan ddefnyddio ein sgiliau, ein gwybodaeth a’n dirnadaeth ar y cyd, aethom ati i greu ac esblygu cynnig brand penodol – Addo – Gwnewch eich addewid i Gymru. Fe wnaethom annog pobl i ymrwymo i addewid rhithwir, ac i fod yn fwy ystyriol yn eu hymddygiad tuag at bobl eraill, yr amgylchedd naturiol, a chymunedau Cymru. Roedd ein gweithrediadau yn rhai aml-sianel, o gynnwys ar-lein i gylchlythyr a chymdeithasol, fideo a theledu – y cyfan â’r nod o annog gweithredu ac ennyn emosiwn.

Mae’r ymgyrch Addo wedi cael ei mabwysiadu gan awdurdodau lleol, cyrff twristiaeth a busnesau rhanddeiliaid ledled Cymru, yn ogystal â derbyn ymgysylltu cadarnhaol aruthrol, ac mae bellach yn rhan greiddiol o bob ymgyrch dwristiaeth barhaus.

Chwilio am strategaeth ymgyrch aml-sianel a datrysiadau?

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd