Prosiect Me

Mae eich lles yn bwysig

Mae Platfform4yp.org yn cynnig hyfforddiant un i un, cefnogaeth grŵp a chymheiriaid a rhaglenni lles i bobl ifanc sy’n delio â’u hiechyd meddwl. Ond yn wyneb cyfnodau clo’r pandemig, sut gallai’r elusen barhau i helpu pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl – yn enwedig ar adeg pan oedd mwy a mwy yn chwilio am gefnogaeth?

Gosododd Platfform un prif nod i ni: dod o hyd i ffordd i ymgysylltu a rhyngweithio mewn ffordd ystyrlon ac ymarferol â defnyddwyr Platfform i gymryd lle’r teimlad hwnnw o gysylltiad personol.

Animeiddio
Dylunio Graffig
UX UI
Adeiladu Gwefannau
Templedi Cymdeithasol
Cyllid Cwmni

Fel gyda’n holl ddatrysiadau, fe wnaethom edrych ar y data i ddechrau. Buom yn astudio gwybodaeth a thueddiadau, siarad â defnyddwyr Platfform i sefydlu angen ac arferion, ac astudio adrodd straeon a rhyngweithio iechyd meddwl. Buom yn cydweithio â Platfform i gynnal gweithdai ar ein syniadau, o sgyrsfotau rhyngweithiol i fideos i ganolbwyntio ar yr hyn fyddai fwyaf effeithiol i ennyn diddordeb eu cynulleidfa ifanc.

An Orchard Creative team member working strategically on Project Me in the studio.

Arthom ati i greu amgylchedd ar-lein pwrpasol o’r enw Prosiect ME – fel rhan o wefan Platfform4yp.org – lle gallai defnyddwyr ymgysylltu â chwisiau lles rhyngweithiol a ffilmiau ar bynciau fel meddwlgarwch a sut mae ymennydd yr arddegau’n gweithio. Fe wnaethom arwain y defnyddwyr drwy eu siwrnai lles, gyda swyddogaeth cwis integredig wedi’i hymgorffori yn y wefan, gan gynnig awgrymiadau a chyngor gan arbenigwyr a chymheiriaid.

Fe wnaethom ddefnyddio arddull ddarlunio nodedig yn lle ffotograffiaeth, a daethom â phopeth yn fyw drwy animeiddio. Roedd ffilmio’r fideos yn ein swyddfa gan ddefnyddio sgrin werdd yn golygu ein bod yn gallu ychwanegu elfennau graffeg ac animeiddiedig y tu ôl i’r siaradwr i ganiatáu ar gyfer manylion ychwanegol, i hwyluso hygyrchedd ac i wneud i’r fideo pleserus deimlo fel teulu neu gyfres.

A set of 3 Instagram stories, with people using the Project Me filters.

Ein her oedd ymgysylltu â phobl ifanc sy’n delio ag iechyd meddwl a darparodd ein datrysiad ddull effeithiol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd penodol.

Four project me stickers on a lamp post, on a sunny day.
A denim jacket with two Project Me pins attached to the front pocket. One is a hand doing an okay sign. The other is a green lightening bolt.

Ein her oedd ymgysylltu â phobl ifanc sy’n delio ag iechyd meddwl a darparodd ein datrysiad ddull effeithiol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd penodol. Cafodd ein fideos eu gwylio gannoedd o weithiau gan alluogi pobl i gael mynediad at help a chyngor hanfodol ar adeg pan oedd cyswllt a gwasanaethau wyneb yn wyneb yn gyfyngedig.

An illustrated image showing a dedicated online environment for young people.

Eisiau gweld sut gallwn ni helpu eich busnes i sbarduno ymgysylltu?

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd