Hiraeth
Cwpan y Cenhedloedd Hydref 2020… ac roedd rygbi rhyngwladol yn ôl. Ond, roedd Stadiwm y Principality ar gau i’r chwaraewyr a’u cefnogwyr, wedi iddi gael ei throi’n ysbyty maes gyda 2,000 o welyau oherwydd pandemig Covid-19. Ein cleient, Cymdeithas Adeiladu Principality (CAP), yw 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU, ac mae’n eiddo i ac yn rhedeg er budd ei 500,000 o aelodau. Mae CAP wedi ffurfio partneriaeth gydag Undeb Rygbi Cymru ers dros 15 mlynedd i gefnogi rygbi ar bob lefel ledled Cymru gan sicrhau hawliau enwi Stadiwm y Principality yn 2016. Ond heb unrhyw gemau’n cael eu chwarae yno roedd hi’n anodd i CAP wneud y mwyaf o’u nawdd ar lawr gwlad.
Cynhyrchu fideos corfforaethol
Cynllunio a Phrynu Cyfryngau
Wrth ymateb i gyfyngiadau Covid-19, roedd rhaid i ni weithio’n agos gyda’r asiantaeth farchnata chwaraeon oedd wedi ei phenodi gan CAP i ddatblygu ymgyrch oedd yn cipio dychymyg Cymru ac yn magu ymwybyddiaeth bellach o’r cysylltiad rhwng Stadiwm y Principality a Chymdeithas Adeiladu Principality. Ein her? Dod ag awyrgylch trydanol y stadiwm i gartrefi gan ddangos undod â’r gymuned rygbi ledled Cymru. Gyda’n gilydd, fe lwyddom i droi’r sialens unigryw hon yn gyfle i elwa o angerdd y cefnogwyr dros eu tîm a’u gwlad, boed o’r soffa neu’r stadiwm.
Yn dilyn apêl cyfryngau cymdeithasol gan CAP fe gomisiynwyd y bardd Eurig Salisbury i ysgrifennu awdl i leisio teimladau’r genedl wrth i gatiau ein Stadiwm genedlaethol barhau ar gau. Lleisiwyd y gerdd gan Cerys Matthews mewn hysbyseb deledu a gynhyrchwyd gennym ni, ynghyd â chynnwys fideo i’w ddefnyddio ar draws sawl sianel gymdeithasol.
Gwnaethom hefyd arwain ymgyrch gyfryngau aml-sianel i godi ymwybyddiaeth brand a nawdd ar lwyfannau – teledu, VOD, awyr agored, radio, print a sianeli digidol. Lansiwyd yr hysbyseb yn ystod egwyl y rhaglen boblogaidd ‘I’m a Celebrity Get Me Out Of Here’ ar ITV, a ddarlledwyd yn ystod holl gemau byw Cymru ar S4C gan ennill ffigurau gwylio anhygoel.
Crëwyd a dosbarthwyd 1,000 o ‘becynnau cefnogwyr’ wedi eu brandio ar draws Cymru i ddiolch i gefnogwyr am eu cyfraniad i’r ymgyrch ac i ddod a’r awyrgylch stadiwm hwnnw roeddem yn hiraethu amdano i’w cartrefi.
Cododd ymwybyddiaeth o nawdd y Principality yn uwch na chyn Covid, ac yng ngogledd Cymru fe gynyddodd 20%.
1.5 Miliwn o argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
7% o gynnydd yn yr ystyriaeth.
Roedd yr effeithiau ac argraffiadau ar draws pob sianel a ddewiswyd ar gyfer yr ymgyrch hon yn uwch na’r ffigyrau oedd wedi eu hamcangyfrif.