Masnach a Buddsoddi
Dyma Gymru. Wedi buddsoddi.
Mae Cymru yn buddsoddi yn y dyfodol. Datblygu syniadau a thechnolegau sy’n helpu i lunio’r ganrif nesaf. Ac mae Masnach a Buddsoddi (M&B) ar flaen y gad yn y daith hon. Fel menter farchnata Buddsoddi Uniongyrchol Tramor (BUT) swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, mae M&B yn gyfrifol am hyrwyddo Cymru fel lle i fusnes a chynnig cymorth i’r rhai sy’n dymuno buddsoddi.
Yr her oedd cyflwyno Cymru i’r byd fel lle i wneud busnes. Denu pobl a chwmnïau a all gyfrannu drwy fuddsoddi yn ein cenedl. Dod ag arbenigedd M&B ynghyd a dathlu’r rhai sydd wedi elwa oedd y prif amcanion.
Strategaeth greadigol
Datblygu brand
Dylunio graffeg
Cyfeiriad celf
Ffotograffiaeth
Ysgrifennu copi
Cyfieithu
Cynhyrchu a dosbarthu cynnwys
Prynu cyfryngau
Gan adeiladu ar y tair thema graidd, lles, talent a chynaliadwyedd, sefydlwyd syniad mawr – Dyma Gymru. Wedi buddsoddi. Yn syml, ei Chymru’n cael ei buddsoddi yn yr economi, ei phobl a’i dyfodol. Roedd y meddylfryd hwn yn sail i’r strategaeth ar gyfer ymgyrchoedd parhaus a gweithgarwch marchnata, gan arwain negeseuon a chynnwys creadigol.

Yng Nghymru, rydym yn buddsoddi yn y dyfodol, gan ddatblygu syniadau a thechnolegau newydd a fydd yn helpu i lunio’r ganrif nesaf.
Ein strategaeth oedd adeiladu ymwybyddiaeth brand, creu cyfleoedd, a chynyddu diddordeb mewn BTU. Fe wnaethom hyn trwy ddatblygu adrodd straeon deniadol trwy gyfres o gynnwys ffurf hir a byr ar gyfer arwyr, a chyfres o straeon busnes a gafodd eu ffilmio, tynnu lluniau ac ysgrifennu ar draws sectorau busnes a rhanbarthau lluosog. Gyda phobl, cynnyrch a lle yn ffocws cynnwys.
Creu banc o asedau y gellir eu teilwra a’u defnyddio ar gyfer ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn a’u rhannu i adnodd ar-lein, i’r tîm Masnach a Buddsoddi, i’w ddefnyddio ar draws eu cyfryngau cymdeithasol organig eu hunain.



Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partner digidol a thimau cyfryngau mewnol, gan ddatblygu ymgyrchoedd lluosog trwy gydol y flwyddyn. Canolbwyntio ar ddigwyddiadau marchnad allweddol ar draws y byd, megis Wythnos Cymru Llundain, Cwpan y Byd Qatar, Expo Dubai, Wythnos Seiber, Arab Health ac Wythnos Dechnoleg yr UD.


