Nid yn unig yr oedd Awst yn fis o wyliau tîm a hwyl yr haf, ond hefyd o bartneriaethau ystyrlon, prosiectau cyffrous ac o fyw yn unol â’n gwerthoedd, gan ein hatgoffa pam rydyn ni’n gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Dyma gipolwg ar beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud.
Fe ddechreuon ni’r mis trwy fynd yn syth i galon diwylliant Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mewn cydweithrediad â nifer o frandiau cenedlaethol gan gynnwys Dŵr Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Coleg y Cymoedd , FSA, a Chomisiynydd y Gymraeg, fe wnaeth ein tîm Digwyddiadau ac Arddangosfeydd ddod â’u stondinau arddangos yn fyw gan eu helpu i godi eu proffil unwaith eto. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ddathlu cyfoeth treftadaeth, iaith a chreadigrwydd Cymru, gan wneud Eisteddfod eleni yn un cofiadwy i bawb a gymerodd ran.
Wnaethon ni gweithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer sioe deithiol brofiadol a’n harweiniodd ar draws y genedl, gan annog pobl i archwilio’r rhwydwaith rheilffyrdd mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Roedd yn fwy na dim ond ymgyrch hyrwyddo— roedd yn ymwneud â chysylltu â chymunedau, tanio sgyrsiau, ac ysbrydoli diddordeb newydd yn y teithio ar y trên.
Gwelodd Awst hefyd ein tîm Cynnwys yn teithio i Ffrainc ar gyfer Gŵyl Lorient, dathliad o ddiwylliant Celtaidd sy’n uchafbwynt i ni bob blwyddyn. Hwn oedd ein 8fed tro i ffilmio’r ŵyl ar gyfer rhaglen arbennig ar S4C, ac nid oedd yn siom.
Rydyn ni’n gyffrous i fod yn bartner ag Alcohol Change UK ar gyfer ymgyrch Ionawr Sych® sydd i ddod. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi’r botel i lawr am fis yn unig—mae’n ymwneud ag ysbrydoli newid sylfaenol yn y ffordd mae pobl yn ymdrin ag alcohol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at helpu i wneud ymgyrch eleni’r fwyaf dylanwadol hyd yma
Yn olaf, mae ein hymrwymiad i’r gymuned yn parhau drwy ein partneriaeth gyda Chadwch Gymru’n Daclus. Fel Hyb Casglu Sbwriel, rydym wedi darparu offer a chefnogaeth i gwmnïau fel Deloitte, Admiral, a British Gas, gan eu helpu i drefnu eu casgliadau sbwriel eu hunain. Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi cynnal 19 casgliad sbwriel allanol—mwy nag erioed o’r blaen. Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i’w gwneud hi’n haws i fwy fyth ymuno.