Yr Het Gymreig
Gyda thîm pêl-droed dynion Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd, roedd hi’n amser rhoi ein het greadigol ymlaen… roedd Cymru ar eu ffordd i Qatar ac roedd Llywodraeth Cymru eisiau gosod het fwced 3m o daldra yn Doha i gefnogi ymgyrch ein tîm cenedlaethol.
Dyma flas o’r sgwrs:
‘Ry’n ni angen het fwced’ – iawn mae hynny’n ddigon hawdd.
‘Yn Qatar’ – dim problem, gallwn ni hedfan hi draw
‘Mae angen iddi fod yn 3m o daldra’ – diddorol… dyna het fawr!
‘Mae angen ei rhoi hi mewn man cyhoeddus ar y Corniche’ – reit…
‘A dim ond tair wythnos sydd gennym i wneud hyn’ – nawr mae hyn yn dipyn o her!
Y cynllun gwreiddiol oedd adeiladu’r het yn y DU a’i chludo i Qatar i’w gosod – i ni allu rheoli’r broses gyfan. Roedd pum het debyg yn cael eu hadeiladu’n barod i’w gosod ledled Cymru, be fyddai un arall? Ond, roedd y dyddiad cau ar gyfer cludo y nwyddau dramor wedi hen fynd a byddai cludo mewn awyren yn gwbl anymarferol – felly, roedd yn rhaid i ni ei hadeiladu’n lleol.
Roedd hi’n anodd dod o hyd i gyflenwyr yn Qatar i gynorthwyo ar brosiect mor uchelgeisiol dros gyfnod prysur Cwpan y Byd, felly bu’n rhaid estyn allan i’n rhwydweithiau rhyngwladol. Diolch i help un o’n partneriaid yn Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, One Union, fe llwyddom i sicrhau adeiladwr yn Qatar i gynorthwyo.
Roedd dod o hyd i ddeunydd addas yn her. Gwydr ffibr fyddai’r opsiwn arferol, ond doedd dim amser i adeiladu mowld. Ni fyddai ffabrig a ffrâm fetel yn ddigon cryf a byddai’r haul yn goleuo lliwiau’r ffabrig – felly fe benderfynon ni ei chreu o Blue Styrofoam a’i phaentio.


Gydag un her wedi’i datrys a’r het wrthi’n cael ei hadeiladu, roedd angen gweithio allan sut i’w gosod, goleuo a brandio. Diolch i bartneriaid yn Qatar a’r Emiraethau Arabaidd Unedig roedd criw ar gael yn lleol i osod yr het ac argraffu’r brand.
Nôl yng Nghaerdydd, roedd y tîm Rheoli Prosiectau yn mynd trwy’r prosesau cymeradwyo i allu gosod het 10 troedfedd o uchder mewn man cyhoeddus ar y Corniche – promenâd ger y dŵr ym Mae Doha. Roedd gennym asiantaeth teithio wrth law os oedd angen neidio ar awyren i Doha (rhywbeth oedd wastad yng nghefn ein meddyliau… a’r gyllideb), ond diolch i brofiad ac ymroddiad ein staff yng Nghymru a chefnogaeth ein partneriaid ar lawr gwlad doedd dim angen.
Roedd yr het yn llwyddiant ysgubol! Roedd yn ganolbwynt i gefnogwyr Cymru, yn hwb i ymweliad y Prif Weinidog, yn gefndir i gyfweliadau rhyngwladol diddiwedd, ac yn llwyfan i un o berfformiadau eiconig Dafydd Iwan o Yma o Hyd!
