Mae ganddon ni gyfle cyffrous i rywun ymuno â thîm Orchard fel Derbynnydd y Swyddfa.
Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am gyfarch a chwrdd â’r holl gleientiaid ac ymwelwyr sy’n dod i’n swyddfa yng Nghaerdydd yn ogystal ag ateb pob galwad. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod glendid y swyddfa/mannau cymunedol yn cael ei gynnal, a bod cyflenwadau digonol o luniaeth yn cael eu cadw, ynghyd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol eraill.
Noder: ar gyfer y swydd hon, bydd gofyn i chi weithio 9 – 3 o ddydd Llun i ddydd Gwener; fodd bynnag, rydyn ni’n fodlon ystyried oriau rhan amser neu hyblyg.
Byddai rhywun sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn ddymunol yma.