Allwch chi ddylunio yn 3D, ydych chi’n fedrus wrth weithio mewn cysyniadau gofodol, yna dewch i ymuno â ni!

Mae Orchard yn asiantaeth integredig flaenllaw sydd wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd sy’n darparu meddwl strategol, datrysiadau creadigol ac effaith fasnachol. Rydym yn helpu brandiau i gysylltu â’u cynulleidfaoedd drwy strategaethau craff, syniadau beiddgar, a phrofiadau trochi.

Rydym ar bwynt cyffrous yn ein cynlluniau ehangu ar gyfer tîm Orchard Activations ac rydym yn chwilio am Ddylunydd 3D talentog newydd i ymuno â’r tîm i gyfrannu ymhellach at ein llwyddiant.

Bydd y rôl hon yn eich galluogi i weithio gydag ystod o gleientiaid a darparu swyddi ledled y byd, gan rhoi cyfle i chi greu atebion dylunio 3D newydd ac arloesol.

Stands and a 360 video dome at Taste Wales 2022.

Sut i wneud cais

 

nfonwch lythyr eglurhaol atom yn egluro pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y swydd ac anfonwch PDF atom neu linc i’ch CV neu eich portffolio at [email protected] erbyn Dydd Mercher yr ail ar hugain o Chwefror 2023. Rydym yn dilyn yr egwyddor o ‘ansawdd nid nifer’, felly dewiswch y gwaith rydych chi fwyaf balch ohono ac sy’n dangos sut rydych chi’n bodloni ein meini prawf. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal Dydd Iau yr ail o Fawrth 2023.

 

Am gopi o’r disgrifiad swydd, cliciwch yma

Ffit y bil? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd