Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â thîm Orchard fel Uwch Reolwr Prosiect yn y tîm Arddangosfeydd a Digwyddiadau. Mae’r rôl hon ar gyfer Contract Tymor Penodol 12 mis, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn.
Mae Orchard yn asiantaeth integredig flaenllaw sydd wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd sy’n darparu meddwl strategol, datrysiadau creadigol ac effaith fasnachol. Rydym yn helpu brandiau i gysylltu â’u cynulleidfaoedd drwy strategaethau craff, syniadau beiddgar, a phrofiadau trochi.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma.
Sut i wneud cais
Anfonwch lythyr eglurhaol a CV neu eich portffolio at ymunoartim@thinkorchard.com erbyn canol dydd, 21 Chwefror 2024.