Lansiad llwyddiannus Aston Martin
Penwythnos o ddigwyddiadau
Fel arbenigwyr ym maes rheoli digwyddiadau, ni oedd y dewis cyntaf i Aston Martin pan oeddent eisiau lansio eu ffatri newydd yn Sain Tathan i bobl bwysig a’r gymuned leol. Y nod oedd ymgysylltu a chysylltu â’r gymuned leol, a chreu cysylltiad a pherthynas gadarnhaol barhaus â’r brand. Cawsom her ganddynt i reoli a chyflwyno penwythnos o ddigwyddiadau ar eu safle newydd, a fyddai’n cynnwys digwyddiad trosglwyddo swyddogol a digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd.
Rheoli Digwyddiadau
Rheoli Cynrychiolwyr
Clyw Weledol
Ffotograffiaeth a Ffilmio
Gan ddefnyddio ein rhwydwaith sefydledig o gysylltiadau ac arbenigwyr diwydiant, aethom ati i ddarganfod mwy am ein cynulleidfa, y logisteg a’r metrigau i fesur llwyddiant. Aethom ati i drefnu a rheoli’r digwyddiad deuddydd o’r cysyniad i’r cyflwyno.

Er mwyn sicrhau bod yr amcan o ymgysylltu lleol yn cael ei gyflawni, gwnaethom ddylunio a rheoli porthol tocynnau pwrpasol i ddosbarthu mwy na 26,000 o wahoddiadau i gynulleidfa leol, gan ein galluogi i dargedu codau post penodol yn yr ardal.
Roedd y digwyddiad trosglwyddo swyddogol undydd yn cynnwys areithiau, teithiau, dosbarthiadau dylunio, rhwydweithio a chyhoeddiad am gefnogaeth Aston Martin i gronfa les ARF. Ac roedd y rhestr o’r gwesteion pwysig yn cynnwys yr Ysgrifennydd Amddiffyn ar y pryd, Michael Fallon, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a mwy na 250 o wasg y byd a rhanddeiliaid lleol.
Wedyn aethom ati i drawsnewid y lleoliad ar gyfer y diwrnod agored cyhoeddus, gan groesawu miloedd o ymwelwyr a chynnig llu o weithgareddau, 18 o werthwyr bwyd unigryw, dosbarthiadau meistr dylunio, teithiau o amgylch yr awyren drafnidiaeth RAF Hercules ac RAF Red Arrow, ynghyd â’r cyfle i weld mwy na 700 o geir Aston Martin, gan gynnwys ceir enwog James Bond, ceir rasio a cheir cysyniad.

