Mae’r Pennaeth Digwyddiadau a Phrofiadau yn gyfrifol am arwain cynllunio, cydlynu a gweithredu pob prosiect sy’n gysylltiedig ag arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae’r rôl hon yn cynnwys rheoli a datblygu tîm, datblygu strategaethau digwyddiadau, a sicrhau bod digwyddiadau ac arddangosfeydd o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn gydnaws â safon Orchard.
Bydd y swydd yn gofyn am wneud penderfyniadau tactegol i gyflawni strategaeth y cwmni. Bydd y swydd yn golygu gweithio’n agos gyda’r Uwch Dîm Arwain i hyrwyddo integreiddio a sicrhau bod pob tîm a chyflogai yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nodau ac amcanion terfynol Orchard.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar allu cryf i weithio’n rhagweithiol, a gweithredu ar dueddiadau cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg i baratoi maes datrysiadau Gweithrediadau ar gyfer y dyfodol a chreu cynlluniau gweithredu a thwf parhaus yn unol â hyny.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma